Canolbwyntio ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd

Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref

Bydd Dr Connell yn dweud bod angen cefnogaeth barhaus ar y cam cynharaf os yw Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â’r mater.

Bydd ei gyflwyniad, ym mhabell Prifysgol Caerdydd am 11:00 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, yn cyfeirio at ymchwil gan y Ganolfan sy’n ymateb i alwad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar ddigartrefedd yng Nghymru o fewn degawd.

Dywedodd Dr Connell: “Y ffordd orau o ddod â digartrefedd i ben ymhlith pobl ifanc yw trwy atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid canolbwyntio ar leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ddigartref, eu helpu i gadw’u llety presennol os oes risg o’i golli, a’u helpu i gael gafael ar lety addas yn gyflym os ydynt yn colli’u cartref.

“Mae hyn yn golygu edrych ar ystod eang o ffactorau; strwythurau cymdeithasol ac economaidd, y ffordd y mae gwasanaethau fel iechyd, gofal a chyfiawnder troseddol yn gweithredu, ac amgylchiadau personol a theuluol pobl ifanc unigol.

“Yn hanfodol, mae’r dystiolaeth rydym wedi’i chyhoeddi yn awgrymu bod canfod pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar gam cynnar iawn, efallai cyn iddynt sylweddoli eu hunain, yn bosibl ac yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Bu’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn rhyngwladol ac o Gymru i gynhyrchu adroddiad o’r dystiolaeth orau ledled y byd ar sut i gael gwared ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru waith y Ganolfan wrth wneud y penderfyniad o gynnig £10m ychwanegol i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg pobl ifanc ym mis Tachwedd 2018.