Angen dileu rhwystrau i fanteisio ar gynlluniau GIG, medd adroddiad CPCC

Bydd tair rhaglen GIG genedlaethol sydd â’r nod o newid y berthynas rhwng cleifion a’r gwasanaeth iechyd yn ei chael hi’n anodd gwireddu eu potensial heb fynd i’r afael â rhwystrau sylweddol, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad yn adolygu tair rhaglen newid ymddygiad yn y GIG: Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif; Dewis Doeth Cymru; a Phresgripsiynu Cymdeithasol. Nod pob un o’r rhain yw symud darpariaeth y GIG tuag at hyrwyddo ymddygiadau iachach er mwyn atal iechyd gwael.

Er bod gan bob rhaglen bosibilrwydd o helpu’r GIG i symud y ddarpariaeth tuag at atal, mae eu heffeithiolrwydd yn cael ei leihau gan rwystrau strwythurol a diwylliannol sylweddol sy’n atgyfnerthu ymddygiadau presennol yn y system.

Dywedodd Dr Craig Johnson, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod gan bob un o’r tair rhaglen hyn botensial i wella canlyniadau i gleifion. Mae llawer o ffactorau, fel cyfyngiadau o ran adnoddau a chanfyddiadau ynglŷn â rôl staff, yn cyfyngu ar effaith y cynlluniau hyn.

“O ystyried mai nod pob rhaglen yw newid sut mae’r gwasanaeth iechyd yn rhyngweithio â chleifion, mae achos i ddod â’r tair rhaglen yn nes at ei gilydd i’w helpu i weithio’n fwy effeithiol.

“Byddai integreiddio’r rhaglenni i ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru a gynhaliwyd yn ddiweddar yn galluogi pecyn o fesurau mwy effeithlon a chysylltiedig sy’n symud tuag at GIG sy’n gweithio i atal.”