Amlygu risgiau a chyfleoedd trethi datganoledig mewn adroddiad arbenigol newydd

Ni fydd modd syml o godi refeniw treth incwm gan ddefnyddio pwerau treth datganoledig newydd Cymru, yn ôl adroddiad newydd gan academyddion Prifysgol Caerdydd ar gyfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Mae Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol, a ysgrifennwyd ar gyfer GPCC gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, yn amlygu bod perfformiad economi Cymru yn effeithio’n uniongyrchol ar dderbyniadau treth yn y dyfodol.

Wrth i drafodaethau ddwysáu ynglŷn â phwerau newydd Cymru dros gyfraddau treth incwm, mae’r adroddiad yn amlygu:

  • Byddai ychwanegu 1c ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm yn codi £184m, sy’n cyfateb i ddim ond 2% o wariant cyfredol ar iechyd a gofal cymdeithasol
  • Byddai’n cymryd ymateb ymfudo sylweddol gan y rheiny ar gyflogau uchel i wneud toriadau yng nghyfradd uchaf treth incwm yn gost-niwtral
  • Dylid diwygio polisi treth mewn ffordd integredig, gyda’r holl drethi datganoledig a lleol yn cael eu hystyried ar y cyd. Er enghraifft, gellir creu system Dreth Gyngor tecach ar yr un pryd â newid cyfraddau treth incwm

Mae’r adroddiad hefyd yn darganfod sawl risg i ddyfodol refeniw trethi datganoledig y dyfodol:

  • Bydd perfformiad economi Cymru a beth sy’n digwydd i farchnadoedd llafur a thai Cymru nawr yn cael effaith uniongyrchol ar faint cyllideb Cymru
  • Mae disgwyl i boblogaeth oedran gweithio Cymru grebachu dros y blynyddoedd nesaf, gan gyfyngu twf yn sylfaen drethu Cymru

 

Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:

“Unwaith y daw datganoli rhannol o dreth incwm i derfyn yn Ebrill 2019, bydd Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn rheoli bron i £5 biliwn o refeniw trethi – 30% o’u gwariant ar hyn o bryd.

“Gyda phwerau treth newydd daw cyfrifoldebau newydd, ac mae ein hadroddiad yn mynegi beth sydd angen cadw mewn golwg er mwyn defnyddio’r pwerau hyn mewn modd cyfrifol.

“Mae ‘na derfyn ar faint y dylid defnyddio polisi trethi ei hun i gyflawni ar amcanion polisi ehangach, oherwydd gall hyd yn oed newidiadau bychain â bwriadau da gael effaith ddofn ar yr arian sy’n dod mewn.”

Dywedodd Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae gan Lywodraeth Cymru’r cyfle nawr i siartio llwybr ei hun ar bolisi treth yng Nghymru, ac mae angen i wneuthurwyr polisi Cymru ystyried y ffordd orau o godi refeniw o sylfaen drethu Cymru er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus datganoledig.

“Gan ystyried effeithiau posib o unrhyw newid i gyfraddau treth incwm yng Nghymru, byddai’n synhwyrol i ddiwygio’r Dreth Gyngor ar yr un pryd i greu dull gyfrannol o drin trethu.

“Oherwydd y dylanwad mae meysydd polisi ehangach fel addysg a thai yn cael ar yr economi, mae ‘na heriau ar draws adrannau i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod hi’n rheoli’r risg gynyddol sy’n dod gyda datganoli cyllidol mewn modd llwyddiannus.”