Adroddiad newydd yn nodi llwybrau rhag dyled wrth i drethi cyngor godi

Mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol er mwyn atal cartrefi yng Nghymru rhag disgyn ar ei hôl hi o ran talu treth y cyngor neu rhent tai cymdeithasol, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.

Wrth i gynghorau ledled Cymru gynyddu eu cyfraddau treth gyngor yn sylweddol ar gyfer blwyddyn nesaf, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu cymorth personol a rhagweithiol i ddinasyddion sy’n agored i niwed, yn hytrach na defnyddio’r un dull o gymorth i bawb.

Byddai nodweddion allweddol o system gymorth yn cynnwys:

  • Meithrin ymddiriedaeth gyda dinasyddion o’r cychwyn cyntaf pan fyddant yn dechrau bod yn gyfrifol am dalu treth y cyngor neu rent cymdeithasol
  • Nodi unrhyw broblemau a gweithredu arnynt cyn gynted ag y bo modd
  • Esmwytho’r broses o gyfeirio pobl sydd mewn dyled at wasanaethau partner, a mynediad gwell at gymorth arbenigol annibynnol

Ond, mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio y gallai pwysau llwyth gwaith cynyddol fod yn rhwystr i allu cynghorau a chymdeithasau tai i ymateb i’r cynnydd yn y galw yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw Gredyd Cynhwysol a gyflwynir.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae 67,600 (5.2%) o gartrefi yng Nghymru mewn dyled, ac mae mwy ohonynt ar ei hôl hi gyda thaliadau treth y cyngor neu renti tai cymdeithasol nag mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd Dr Paul Worthington o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru:

“Er na ellir osgoi’r cynnydd yn y dreth gyngor o’r raddfa a gynigir gan lawer o gynghorau yng Nghymru eleni, gellir gwneud llawer mwy i gefnogi’r rhai hynny sydd fwyaf mewn perygl o fynd i ddyled o ganlyniad i filiau uwch.

“Mae rhai cynghorau eisoes yn gwneud gwaith da, ond mae’r cyngor a’r cymorth a gynigir ledled Cymru yn rhy anghyson o lawer. Dylai cynghorau fod yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn ymdrechu i wella’r ffordd y maen nhw’n cefnogi’r rhai hynny sy’n agored i ddyled.

“Mae llawer hefyd i’w ddysgu o’r ffordd y mae llawer o landlordiaid cymdeithasol yn cefnogi eu tenantiaid sydd mewn perygl o fynd i ddyled gyda’r rhent. Un ffordd o wella’r cymorth sydd ar gael yw cynyddu faint o ddata a rennir a datblygu staff rhyngddyn nhw a’r cynghorau lleol.

“Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pob cyngor a landlord cymdeithasol am ddysgu o’n hadroddiad, y cwestiwn heb ei ateb yw, a ydynt hyd yn oed yn gallu rhoi adnoddau ychwanegol i hyn ar adeg pan fo cyllidebau’n cael eu gwasgu’n fwy.”

Pwyswch yma i weld yr adroddiad llawn.