Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau i Wella Mynediad i Wasanaethau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ystod eang o raglenni i fynd i’r afael â thlodi gwledig ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod bron i chwarter o’r boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae’r hyn sy’n achosi tlodi gwledig yn gymhleth ac yn niferus, ond gwyddys bod mynediad i wasanaethau yn ffactor pwysig sy’n cyfrannu ato.

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar fynediad i wasanaethau iechyd a lles, a gofal plant fforddiadwy, gan ystyried y posibilrwydd o wella darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Ni thrafodir mynediad i wasanaethau ariannol yn yr adroddiad (heblaw am un enghraifft yn Awstralia). Cyfeirir at fynediad i wasanaethau a chyngor ariannol (yn enwedig i fusnesau bach) yn bennaf yn yr adroddiad ar ‘Ymyriadau economi wledig’. Mae datblygiad bancio ar-lein a mynediad ar-lein i wasanaethau ariannol eraill wedi lleihau arwyddocâd y broblem hon i ryw raddau.

Mae’r adroddiad hwn yn ymchwilio i ymyriadau mewn nifer o wledydd datblygedig er mwyn gwella mynediad i amrywiaeth o wasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Mae’r dystiolaeth a ddarperir yn seiliedig ar adolygiad o lenyddiaeth a chwiliadau ar-lein rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017.  Mae’r adroddiad yn disgrifio nifer fach o ymyriadau lle cafwyd tystiolaeth o effaith, yn crynhoi’r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill, ac yn trafod goblygiadau polisi eu rhoi ar waith yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth o’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar fynediad i wasanaethau ond bydd hefyd yn bwydo i mewn i adroddiad cyffredinol sy’n archwilio goblygiadau’r dystiolaeth, mewn nifer o feysydd â blaenoriaeth, o ran datblygu gwledig a thlodi gwledig.