Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau i Fynd i’r Afael â Thlodi Tanwydd

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio ymyriadau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd mewn amrywiaeth o wledydd OECD lle ceir peth tystiolaeth ddibynadwy ynghylch eu heffeithiolrwydd.

Mae’r rhan fwyaf o ymyriadau yn weithgareddau sylweddol a gefnogir gan y llywodraeth drwy gymorthdaliadau, lle canolbwyntir ar wella effeithlonrwydd ynni’r stoc dai a/neu gyfarpar yn y cartref (yn enwedig boeleri dŵr poeth a gwres). Mae costau buddsoddi yn y cynlluniau hyn yn uchel ond gallant fod o fudd hirdymor mawr, a helpu i gyflawni targedau allyriadau CO2 yn ogystal â lleddfu tlodi tanwydd.