Ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol: Dadansoddiad o’r ymatebion

Ym mis Mai 2020, gwahoddodd Llywodraeth Cymru y cyhoedd i anfon eu meddyliau am y camau sy’n angenrheidiol i gefnogi adferiad ac ailadeiladu wedi COVID-19. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 685 o’r 2,021 o sylwadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r broses ymgynghori, ac rydym wedi eu dadansoddi’n fanwl. Nid yw’n cynnwys mwy na 900 o ymatebion a oedd yn rhan o ymgyrch gydlynol, a oedd fel ei gilydd yn gwneud yr un pwyntiau yn y bôn, sydd eisoes wedi’u cynnwys mewn ymatebion eraill.  Nid yw ychwaith yn cynnwys ymatebion a oedd yn canolbwyntio’n gul iawn ar leddfu mesurau cloi tymor byr gan nad yw’r rhain yn berthnasol mwyach ac nid ydynt yn berthnasol i’r broses adfer ac ailadeiladu tymor hir.

Trefnir yr ymatebion o dan y chwe maes thematig sydd wedi dod i’r amlwg o’r dadansoddiad: Cymdeithas; Economi; Amgylchedd; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant; Ymgysylltiad gwleidyddol; a Thechnoleg ddigidol. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddau fater trawsbynciol – anghydraddoldebau a dyfodol gwaith – a ddaeth i’r amlwg yn gryf o’r dadansoddiad.