Wedi cyrraedd y pwynt tyngedfennol: Llywodraeth leol Cymru a chyni

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ymateb cynghorau Cymru i gyni, ar sail cyfweliadau gydag arweinwyr, prif weithredwyr a chyfarwyddwyr cyllid cynghorau Cymru a rhanddeiliaid allanol.

Mae cynghorau wedi ymateb i gyni mewn tair prif ffordd: arbedion effeithlonrwydd; lleihau’r angen am wasanaethau cyngor; a newid rôl cynghorau a rhanddeiliaid eraill.

Mae llawer o fesurau, er enghraifft codi treth gyngor a chodi tâl am wasanaethau, a all fod o gymorth wrth ymateb i gyni, ond mae pryder ynghylch eu heffeithiolrwydd hirdymor, eu cynaliadwyedd a’u tegwch.

Gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu llywodraeth leol i ymateb i gyni, megis gwneud newidiadau i’r setliad ariannol a’r system grantiau. Gallai llywodraeth leol wella’r ffordd y mae’n dysgu o ymarfer da yng Nghymru a thu hwnt, darparu gwell cymorth gan gymheiriaid, ystyried ffyrdd eraill o gydweithredu, a gwella’i hymagwedd at gymryd risg.

Mae angen trafod cynaliadwyedd llywodraeth leol Cymru a sut y gellir helpu cynghorau i fod yn wydn.