Tystiolaeth er da

Mae elusennau yn sefydliadau cynyddol soffistigedig o ran sut maent yn casglu tystiolaeth o effaith, ac mae llawer o ganllawiau a chyfarpar gwych ar gael i’w helpu. Fodd bynnag, gall y trydydd sector ddefnyddio tystiolaeth mewn ffyrdd eraill er mwyn bod yn fwy effeithiol a chael llais cryfach.

Yn yr adroddiad hwn a gyhoeddwyd gyda’r Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Defnyddiol, mae Emma Taylor-Collins yn cyflwyno astudiaethau achos o saith elusen yn y DU sy’n dangos y ffyrdd amrywiol y gall tystiolaeth fod o gymorth – o gymryd y cam cyntaf, gwella ymarfer, a dylanwadu ar yr hyn sydd o’u cwmpas.

Gyda lwc, bydd yr awgrymiadau ymarferol sydd wedi’u cynnwys yn ysbrydoli elusennau i feddwl am yr holl ffyrdd y gall tystiolaeth fod o fudd iddynt.