Systemau Blynyddoedd Cynnar Integredig

Mae’r adroddiad yma yn rhoi trosolwg o dystiolaeth ryngwladol sydd ar gael ar systemau blynyddoedd cynnar integredig. Mae’n dadansoddi systemau blynyddoedd cynnar yng Ngwlad Belg, Denmarc, Estonia a’r Iseldiroedd ac yn archwilio ffyrdd o gyflawni newid yn y system.

Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn y broses o greu eu systemau blynyddoedd cynnar integredig, ac nid oes yr un wlad unigol wedi cwblhau hynny felly ni ellir cynnig model y gellid ei drosglwyddo yn ei gyfanrwydd.

Mae’r adolygiad yn dangos nad oes yna’r un wlad unigol allai gynnig model cwbl weithredol o system y gellir ei hefelychu yng Nghymru, ond gallai agweddau o ddatblygu systemau a nodweddion strwythurol o amrywiaeth o wledydd yn yr adolygiad yma fod yn ddefnyddiol o ran hysbysu datblygu systemau blynyddoedd cynnar integredig yng Nghymru.