Papur briffio tystiolaeth CPCC

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ymchwilwyr ac arbenigwyr polisi blaenllaw i gyfuno a threfnu tystiolaeth sy’n bodoli eisoes a nodi bylchau lle mae angen cynhyrchu gwybodaeth newydd.

Mae’r gyfres hon o bapurau briffio tystiolaeth yn crynhoi rhai o’r prif feysydd polisi, heriau a chyfleoedd yr ydym wedi ymchwilio iddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maent yn canolbwyntio’n arbennig ar:

  • Yr economi, sgiliau a seilwaith
  • Plant sy’n derbyn gofal
  • Hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi grwpiau agored i niwed
  • Brexit
  • Llywodraethu a gweithredu

Gobeithio y bydd y papurau hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn problemau polisi, etholiad Senedd 2021 a defnyddio tystiolaeth.