Opsiynau i Gymru o ran Polisi Gofal Plant

Gofynnodd y Prif Weinidog i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru am gyngor annibynnol ar ddatblygu opsiynau ar gyfer ehangu cymorth gyda gofal plant yng Nghymru; ac, yn benodol, beth yw effaith bosibl ehangu darpariaeth gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy’n 3 a 4 oed.

Gweithiodd y Sefydliad gyda Dr Gillian Paull (Frontier Economics) er mwyn modelu effaith cynnig 20 awr o ofal plant am ddim i rieni plant sy’n 3 a 4 oed, yn ogystal â’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer plant cyn ysgol; gan ystyried dau amrywiad:

  • Cynnig cyffredinol i rieni pob plentyn sy’n 3 a 4 oed;
  • Cynnig gyda ‘gofyniad gwaith’ sy’n cyfateb i’r hyn a argymhellwyd yn Lloegr (h.y. bod yn rhaid i’r rhiant unigol neu’r ddau riant mewn pâr ennill yr hyn sy’n cyfateb i 16 yr wythnos o leiaf ar y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd (£7.20 yr awr)).

Mae’r gwaith modelu’n ceisio amcangyfrif yr effaith y byddai’r opsiynau hyn yn ei chael ar y canlynol:

  • Cyflogaeth mamau;
  • Newidiadau i incwm teulu ac effeithiau dilynol ar lefelau tlodi;
  • Gwariant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y bydd yr effaith ar gyflogaeth ac incwm yn fach iawn – gan arwain at newid o lai nag un pwynt canran mewn cyflogaeth mamau ymhlith teuluoedd targed; ac, ar y mwyaf, ostyngiad o ddau bwynt canran mewn lefelau tlodi ymhlith teuluoedd targed.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y byddai gwariant Llywodraeth Cymru yn arwain at ostwng y budd-daliadau y mae teuluoedd yn eu cael (o elfen gofal plant Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth), gan arbed £20m y flwyddyn i Lywodraeth y DU.

Nid ystyriwyd yr effaith ar ddatblygiad plant fel rhan o’r gwaith hwn.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar gais.