Newid ymddygiad yn GIG Cymru: mewnwelediad o dair rhaglen

Gall ceisio newid y ffordd mae’r GIG yn gweithredu fod yn ddefnyddiol mewn ymdrech i newid ymddygiad y bobl oddi mewn iddo. Mae’r adroddiad hwn yn cymhwyso canfyddiadau o faes gwyddor ymddygiad i ddadansoddi tair rhaglen genedlaethol yng Nghymru sy’n ceisio gwneud hyn: Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif; Dewis Doeth Cymru a Rhagnodi Cymdeithasol.

Nod y tair rhaglen, mewn ffyrdd gwahanol, yw newid y berthynas rhwng cleifion a’r gwasanaeth iechyd. Yn benodol, maent yn ceisio gwella canlyniadau iechyd drwy ailgyfeirio darpariaeth y gwasanaeth iechyd at gyd-gynhyrchu ac atal fel rhan o’r agenda Gofal Iechyd Darbodus.

Mae’r adroddiad yn casglu tystiolaeth ryngwladol ynghyd, sy’n awgrymu bod gan bob rhaglen y potensial i newid ymddygiad yn llwyddiannus. Fodd bynnag, ceir rhwystrau strwythurol a diwylliannol sylweddol yn y system sy’n atgyfnerthu ymddygiad cyfredol ac sydd felly’n cymhlethu unrhyw ymdrech i wneud i hyn ddigwydd yn ystyrlon. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiadau o ran amser ac adnoddau, ond hefyd canfyddiad y staff o’u rôl a’u perthynas gyda chleifion.

Y dull allweddol sydd gan bob rhaglen ar gyfer cyflenwi llwyddiannus yw hyfforddi, a bydd hyn yn bwysig iawn. Nid cyfleu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol yn unig y dylai hyfforddiant ei wneud; dylai hefyd ymdrin â chanfyddiadau o ddyletswydd a hunaniaeth staff. Dylid cyfuno hyn gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, a all geisio ymdrin â rhwystrau at gyd-gynhyrchu ac atal fel rhan o’u hymateb i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar gais.