Modelau amgen o ofal cartref

Mae darparwyr a marchnadoedd gofal cartref yn wynebu nifer o heriau o ganlyniad i newidiadau i ddemograffeg y boblogaeth a phwysau ariannol, sy’n creu bregusrwydd yn y farchnad a phrinderau yn y gweithlu.  Mae modelau amgen o ofal cartref yn cael eu hystyried yng Nghymru ac mewn lleoedd eraill fel ymatebion posibl i’r heriau hyn.  Mae’r pandemig Coronafeirws wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ofal cymdeithasol, gan chwyddo’r heriau presennol hyn a chreu rhai newydd, gan gynnwys costau ychwanegol cyfarpar diogelu personol (PPE) a mesurau eraill i atal trosglwyddiad y feirws.  Ar yr ochr gadarnhaol, mae wedi agor y posibilrwydd o gyflymu cyflwyniad ffyrdd newydd o weithio, a chyfle i newid.

Mae rhan gyntaf yr adroddiad hwn yn cyfuno canfyddiadau o gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda llunwyr polisi, rheolwyr ac ymchwilwyr â gwybodaeth arbenigol am ofal cartref yng Nghymru, yn ogystal â rhai o’r themâu allweddol a nodwyd o fodelau gofal cartref o’r DU a gweddill y byd.  Mae’n amlinellu’r hyn sy’n hysbys ynghylch cyflwr presennol y ddarpariaeth gofal cartref yng Nghymru a’r materion allweddol y mae angen mynd i’r afael â hwy.  Mae’r ail ran yn archwilio dulliau gweithredu mewn gwledydd eraill, a allai ddarparu gwybodaeth bwysig i Gymru, ac uno tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd rydym wedi’i chasglu drwy sgyrsiau gydag arbenigwyr yn Lloegr, yr Alban, yr Iseldiroedd, Sweden a Quebec.