Hybu Camu Ymlaen mewn Swydd mewn Sectorau Cyflog Isel

Mae Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Chynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn dangos yr angen i hybu camu ymlaen mewn swydd er mwyn cynyddu enillion ac oriau mewn swyddi lefel mynediad, cyflog isel sydd, i raddau cynyddol, yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i gamu ymlaen.

Mae ein hadolygiad o dystiolaeth o’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag camu ymlaen mewn gwaith cyflog isel yn dangos cost cymryd rhan mewn mentrau presennol; arferion rheoli; cyfyngiadau llesiant; ysgolion swyddi mewnol cyfyngedig o fewn strwythurau cyflogaeth gwastad; a’r ffaith nad yw ennill sgiliau newydd bob amser yn arwain at fwy o gyflog.

Llun: Neil Moralee (CC BY-NC-ND 2.0)