Hunanladdiad ymhlith Dynion

Mae data ar gyfraddau hunanladdiad ar draws y DU yn awgrymu bod elfen i hunanladdiad sy’n gysylltiedig â rhywedd. Ymhlith dynion yr oedd tua tri chwarter o’r holl achosion o hunanladdiad yn 2018.

Yng ngoleuni hyn, ac yng nghyd-destun gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad, gofynnodd Prif Weinidog Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ystyried yr hyn sy’n hysbys am y ffactorau sy’n cyfrannu at y tueddiadau.

Mae’r nodyn hwn yn rhoi trosolwg o gyfraddau hunanladdiad ymhlith dynion a rhai o’r ffactorau sy’n ei achosi, a hynny yng Nghymru ac yn y DU.