Gwerth undebau llafur yng Nghymru

Mae undebau llafur yn rhan annatod o fodel partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru. Yn fwy cyffredinol, mae’n rhan hanfodol o’r dirwedd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y byd. Fe wnaeth TUC Cymru gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i ystyried y dystiolaeth ar werth undebau llafur yng Nghymru, a sut y gallent ymateb i heriau a chyfleoedd y cyd-destun economaidd a llywodraethu presennol.

Cafodd y comisiwn ei rannu yn ddwy. Mae’r rhan gyntaf yn adolygiad o dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar werth undebau llafur yng Nghymru. Mae hyn wedi’i seilio ar dystiolaeth ryngwladol a dadansoddiad o ddata allweddol. Mae’r ail yn grynodeb o drafodaeth bwrdd crwn a gynhaliwyd yn haf 2019, a ddaeth â rhanddeiliaid allweddol ynghyd o’r symudiad undebau llafur gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ogystal ag arbenigwyr academaidd.

Mae ein hadolygiad o dystiolaeth yn dod i’r casgliad fod Cymru, ar y rhan fwyaf o ddulliau mesur gweithgareddau undebau llafur, yn perfformio’n well na’r rhan fwyaf o’r DU. Fel canran o’r boblogaeth, mae mwy o aelodau, mwy o gytundebau cydnabyddiaeth, mwy o reolwyr undeb sydd o blaid masnach, mwy o ymgynghoriadau undeb, a mwy o reolwyr yn cytuno bod undebau llafur yn gwella perfformiad sefydliadol.

Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hyn yn seiliedig ar samplau bychain, gan gyflwyno darlun rhannol o werth undebau llafur yng Nghymru. Gellir mynd i’r afael â hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys rhoi hwb i samplau o Gymru mewn arolygon a setiau data cysylltiedig sy’n bodoli eisoes yn y DU i gael darlun mwy cyflawn o werth undeb llafur. Mae Swyddfa Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg newydd yn cynnig cyfle i gynnal y trafodaethau hyn a gwneud cynnydd pellach.