Gwella’r defnydd o dystiolaeth mewn llywodraeth leol

Mae meithrin cysylltiadau rhwng y byd academaidd a llywodraeth leol wedi bod yn bryder ers cryn amser i’r rheini sydd â diddordeb mewn hyrwyddo arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er bod y rhwystrau a’r galluogwyr o ran y defnydd o dystiolaeth yn hysbys (Langer et al.  2016) a bod yna gorff cynyddol o lenyddiaeth ar ymarferwyr llywodraeth leol ac academyddion fel partneriaid ymchwil, rydym yn gwybod llai am y ffordd orau o hwyluso’r partneriaethau hyn.

I archwilio’r mater hwn, gweithiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) gyda Chyngor Caerdydd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar brosiect pedwar mis a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) i gynyddu cysylltiadau rhwng y cyngor, iechyd y cyhoedd a’r byd academaidd. Archwiliodd y prosiect y mecanweithiau, perthnasoedd a rhwydweithiau sydd eu hangen i gefnogi ac ariannu ymgysylltiad ymchwil o ansawdd uchel yn yr adran Gwasanaethau Plant yn y cyngor.

Fel rhan o’r prosiect hwn cynhaliom dri gweithdy ar-lein gyda chynrychiolwyr o’r Gwasanaethau Plant, Prifysgol Caerdydd, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector, ynghyd ag arolwg gyda staff Gwasanaethau Plant ar ddulliau o ddefnyddio ymchwil ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y cyngor.

Yn y briff hwn rydym yn adrodd ar ganfyddiadau’r gweithdai a’r arolwg, wedi’u grwpio o dan dair thema allweddol sy’n ymwneud ag arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r defnydd o ymchwil yn y cyngor:

  • Arfer cyfredol
  • Rhwystrau i arfer da
  • Cyfleoedd a ffyrdd posib ymlaen.