Gwella Gwaith Trawsbynciol

Nid yw gwaith trawsbynciol yn rhywbeth newydd i Gymru, ac mae iddo lawer o’r rhagofynion sydd eu hangen ar gyfer gwaith trawslywodraethol effeithiol.

Dengys ymchwil nad yw gwaith trawsbynciol yn ateb i bob problem nac yn ateb sydyn chwaith, wedi’r cyfan, mae’n mynd yn groes i’r ffordd mae gweithgarwch y llywodraeth yn cael ei drefnu fel arfer. Oherwydd hyn, mae gofyn cael llawer o ymrwymiad gwleidyddol, ynghyd â llawer o gapasiti rheolaethol.
Rydym yn nodi chwe phroses drawsbynciol sydd wedi cael ei defnyddio yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU:

  • Unigolion, unedau ac asiantaethau sy’n ‘rhychwantu ffiniau’ (er enghraifft is-bwyllgorau’r cabinet, tasgluoedd a chomisiynwyr);
  • Cyllidebau trawsadrannol a thargedau perfformiad;
  • Fframweithiau deddfwriaethol a pholisi;
  • Rhannu seilweithiau a dod â staff ac adnoddau at ei gilydd;
  • Cyrff partneriaeth;
  • Cydweithredu a hunan-drefnu ymhlith staff ‘rheng flaen’.

Mae’r adolygiad o’r dystiolaeth yn tynnu sylw at dair ystyriaeth bwysig:

  • Cymhellion – Mae’n bwysig bod yn eglur ynghylch pam mae’r llywodraeth am weithio mewn ffordd drawsbynciol, h.y. pa ganlyniadau y disgwylir eu cael?
  • Dulliau – Mae gwahanol fathau o waith trawsbynciol a gwahanol lefelau o integreiddio. Mae’n bwysig pwyso a mesur pa fath o waith trawsbynciol sydd ei angen ac y gellir ei wneud, a pha unigolion a sefydliadau ddylai fod yn gysylltiedig â’r broses er mwyn iddi lwyddo.
  • Prosesau – Mae digon o brosesau y gellir eu defnyddio i wneud gwaith trawsbynciol. Rydym wedi sôn am chwech, gan gynnwys amryw yr ydym wedi rhoi cynnig arnynt yng Nghymru yn y gorffennol. Mae’n bwysig asesu pa ddulliau sydd fwyaf tebygol o weithio mewn gwahanol amgylchiadau – ar eu pen eu hunain neu gyda’i gilydd.