Gwella Dealltwriaeth o Benderfyniadau Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth a Chynyddu Nifer y Bobl sy’n Gwneud Penderfyniadau o’r Fath yng Nghymru

Gofynnodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru roi cyngor annibynnol ar ffyrdd o wella dealltwriaeth o benderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth a chynyddu nifer y bobl sy’n gwneud penderfyniadau o’r fath yng Nghymru. Mae’r Sefydliad wedi gweithio’n agos gyda’r Athro Jenny Kitzinger (Prifysgol Caerdydd) a’r Athro Celia Kitzinger (Prifysgol Caerefrog) er mwyn ymchwilio i’r llenyddiaeth a’r dystiolaeth yn y maes hwn, yn ogystal â chynnal sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r maes hwn, cyn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mae ‘Penderfyniad Ymlaen Llaw i Wrthod Triniaeth’ yn gofnod cyfreithiol gyfrwymol (ac iddo rym statudol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) o’r triniaethau yr hoffai unigolyn eu gwrthod pe na allai wneud penderfyniadau o’r fath drosto’i hun yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, wrthod triniaeth sy’n cynnal bywyd os ydych mewn cyflwr diymateb parhaol o ganlyniad i ddamwain mewn car neu salwch. Dim ond 2% o bobl yng Nghymru sydd wedi gwneud penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth, sy’n golygu nad yw Cymru’n gwneud cystal â Lloegr a sawl gwlad Ewropeaidd arall.

Mae adroddiad y Sefydliad yn nodi’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag gwneud penderfyniadau o’r fath, sy’n cynnwys: camddealltwriaeth o’r hyn sydd dan sylw; amheuaeth o ran a fydd dymuniadau’r claf yn cael eu parchu; a’r camsynied bod penderfyniadau o’r fath yn ddiangen os bydd unigolyn eisoes wedi dweud wrth ei deulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol beth yw ei ddymuniadau.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o gamau gweithredu y dylai Llywodraeth Cymru, ynghyd ag elusennau a sefydliadau eraill, eu cymryd er mwyn sicrhau bod pobl yn deall pa opsiynau sydd ar gael iddynt wrth gynllunio gofal ymlaen llaw ac y bydd eu hawl i wrthod triniaeth, os hoffent wneud hynny, yn cael ei pharchu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Addysgu’r cyhoedd, ymgysylltu â’r cyfryngau a chynnal digwyddiadau diwylliannol er mwyn annog pobl i gynllunio ar gyfer sefyllfa bosibl yn y dyfodol lle byddant wedi colli galluedd;
  • Chwalu’r myth bod gan berthynas agos bwerau i wneud penderfyniadau a chywiro ffurflenni swyddogol a all gamarwain pobl ynghylch statws cyfreithiol eu dymuniadau eu hunain neu ddymuniadau perthynas;
  • Ei gwneud yn haws i gael gafael ar ffurflenni/canllawiau ar benderfyniadau o’r fath a chael cymorth gan weithwyr medrus, ar gyfer y boblogaeth gyffredinol a grwpiau penodol;
  • Normaleiddio penderfyniadau o’r fath (e.e. cynnig cofrestru cleifion pan fyddant yn ymuno â phractis meddyg teulu);
  • Hyfforddi ymarferwyr perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn deall beth yw’r penderfyniadau hyn (a phryd y maent yn ddilys ac yn gymwys), yn gallu rhoi’r arweiniad priodol neu atgyfeirio unigolion yn briodol ac yn gallu gweithredu’n unol â’r gyfraith sy’n gymwys iddynt;
  • Creu ystorfa genedlaethol i Gymru gyfan sy’n tynnu sylw at benderfyniadau allweddol mewn argyfwng ac sy’n sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n cynnwys penderfyniadau ymlaen llaw yn hygyrch.