Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl: Newid y prawf modd

Yn 2019 yng Nghymru roedd 22% o’r boblogaeth yn anabl, gyda disgwyl i’r boblogaeth anabl gynyddu’n sylweddol erbyn 2035. Grantiau seiliedig ar brawf modd yw Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (grantiau CiA), i berchen-feddianwyr a thenantiaid (preifat neu gymdeithasol) sy’n anabl, i helpu tuag at gostau i sicrhau bod eu cartref yn hygyrch. Grantiau gorfodol ydynt, a chânt eu hariannu a’u gweinyddu gan awdurdodau lleol o gronfeydd heb eu neilltuo.

Pennir y swm mwyaf y gellir ei roi trwy grant CiA (£36,000) mewn deddfwriaeth, a thrafodir profion modd yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996. Gall awdurdodau lleol benderfynu talu am addasiadau drwy ddefnyddio pwerau disgresiwn dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio 2002, un ai fel taliad atodol neu yn lle grant CiA.

Yn 2018 cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar Addasiadau Tai. Er mwyn sicrhau bod grantiau CiA yn cael eu darparu’n fwy amserol, nododd yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a ddylid parhau i osod prawf modd ar grantiau CiA. Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r materion a godwyd gan y Swyddfa Archwilio, ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu trefniadau cyfredol y prawf modd, ynghyd â chynnig rhai diwygiadau eraill.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio sylwadau ymarferwyr a dadansoddiad data i asesu sut y gallai dileu’r prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl bach a chanolig effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru