Goblygiadau pontio o’r Undeb Ewropeaidd i sectorau allweddol o economi Cymru

Yn dilyn gadael yr UE, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau negodi cytundebau masnach rydd gyda’r UE a gwledydd eraill o gwmpas y byd.

Bydd y trafodaethau negodi hyn a’u canlyniadau’n cael effaith ddofn ar economi Cymru, yn gyffredinol ac i sectorau allweddol unigol. Mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn awyddus i ddeall sut y bydd prif sectorau economi Cymru’n debygol o gael eu heffeithio gan y newidiadau a sut y dylai hyn oleuo trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno tystiolaeth o adolygiad llenyddiaeth, cyfweliadau â chyrff sector a chymdeithasau ledled Cymru, ynghyd â thrafodaeth bwrdd crwn ag arbenigwyr.