Effeithlonrwydd a Bwlch Ariannu’r GIG yng Nghymru

Yn ystod gwanwyn 2016, gwnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ar y cyd â Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, gynnal cyfres o weithdai wedi’u hwyluso er mwyn ystyried sut y gallai effeithlonrwydd ‘technegol’ pellach helpu i gau ‘bwlch ariannu’ hirdymor a rhagamcanol y GIG yng Nghymru. Cafodd hyn ei gysylltu â gwaith modelu newydd gan y Sefydliad Iechyd ar gynaliadwyedd cyllidol y GIG yng Nghymru ac ymchwil gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru i effeithiau posibl gofal iechyd darbodus.

Er bod gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru gynlluniau lleihad costau, roedd gostyngiad yn nifer yr arbedion a nodwyd bob blwyddyn yn awgrymu ei bod yn anoddach sicrhau enillion.

Mae gan y GIG yng Nghymru hanes da o sicrhau effeithlonrwydd drwy wasanaethau caffael a chydwasanaethau gwell, ac mae’n bosibl sicrhau enillion pellach. Mae cryn botensial i wneud hyn hefyd drwy wella’r ffordd y caiff staff eu lleoli; rheoli ystadau a chyfleusterau; cadw cofnodion electronig, defnyddio cymwysiadau digidol sy’n canolbwyntio ar y claf a symleiddio systemau busnes.

Fodd bynnag, er mwyn gwireddu’r cyfleoedd hyn, a sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd gofynnol, mae angen rhaglen fwy strategol a pharhaol i Gymru gyfan.

Dylai’r GIG yng Nghymru gyfeirio at waith yr Arglwydd Carter o Coles yn Lloegr ar fynd i’r afael ag amrywiadau effeithlonrwydd diangen rhwng ysbytai acíwt. Yn hollbwysig i hyn fydd datblygu metrigau effeithlonrwydd gwell i Gymru.

Byddai byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd hefyd yn elwa o fwy o gymorth cenedlaethol, er enghraifft, i ddefnyddio enghreifftiau o arfer da yn lleol a gwaith arloesi â photensial mawr i wneud newidiadau drwy’r gwasanaeth. Mae angen i gymorth cenedlaethol o’r fath fynd i’r afael â phryderon ynghylch y gallu i newid ar draws y system a sicrhau bod arian yn cyd-fynd â blaenoriaethau newid drwy arian trawsnewid neu arian cyfatebol.