Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Mae dyfodol gwaith yn ansicr, gydag amrywiaeth eang o newidiadau cymdeithasol yn effeithio ar y farchnad lafur.

Mae datblygiadau technolegol a chysylltedd gwell; cyni cyllidol parhaus ac ansicrwydd gwleidyddol; newid mewn demograffeg a newid yn yr hinsawdd; agweddau newidiol at weithio a phatrymau cyflogaeth mwy hyblyg; globaleiddio a threfoli oll yn effeithio ar natur gwaith.

Mae pryderon ynghylch goblygiadau economi gig sy’n tyfu, tangyflogaeth, cynnydd mawr yn nifer y contractau dim oriau ac arferion cyflogaeth anhraddodiadol ac ansicr eraill wedi dwysáu.

Ar yr un pryd, mae datblygiadau technolegol cyflym, ymhlith newidiadau cymdeithasol ac economaidd tarfol eraill, yn peri i bobl ddyfalu ynghylch diwedd gwaith fel y mae’n bodoli ac yn gyfarwydd i bobl heddiw.

O ystyried maint y newidiadau a pha mor gyflym y maent yn digwydd, mae’n debygol y bydd llawer o blant mewn ysgolion cynradd heddiw mewn swyddi nad ydynt yn bodoli heddiw, neu’n gorfod cwblhau tasgau sy’n wahanol iawn i rai heddiw o leiaf. Ar yr un pryd, bydd gweithlu 2030 wedi’i ffurfio’n bennaf o’r un bobl sy’n rhan o’r gweithlu heddiw.

Yn ein hadolygiad, rydym yn ceisio torri drwy’r dadleuon eang hyn a’r dyfalu drwy adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael o’r ffactorau sy’n sbarduno newid; drwy ystyried ymatebion cyflogwyr a gweithwyr; ac asesu’r goblygiadau posibl i lunwyr polisi a Llywodraeth Cymru yn benodol.