Defnydd Llywodraeth Cymru o offer polisi i brif ffrydio cydraddoldeb

Ers dyddiau cynnar datganoli, mae wedi bod yn ddyletswydd statudol i Lywodraeth Cymru brif ffrydio cyfle cyfartal ym mhob un o’i gweithgareddau.  Yn dilyn dau ddegawd o amrywiaeth o ran amlygrwydd ar agenda’r Llywodraeth, mae prif ffrydio cydraddoldeb yn Llywodraeth Cymru wedi profi diddordeb o’r newydd yn y blynyddoedd diwethaf.  Yn 2018, fe ymrwymodd Prif Weinidog y dydd, Carwyn Jones, i wneud Llywodraeth Cymru yn llywodraeth ffeministaidd, a fu’n gatalydd ar gyfer yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol, a arweiniodd at lawer o waith i ymgorffori cydraddoldeb rhywiol ym mhenderfyniadau Llywodraeth Cymru.  Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n deddfu adrannau 1 a 3 Deddf Cydraddoldeb 2010, a elwir hefyd y ‘ddyletswydd economaidd-gymdeithasol’.   Mae hyn yn gosod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus, wrth iddynt wneud penderfyniadau strategol, i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldeb canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.  Mae effaith anghymesur y pandemig COVID-19 ar rai grwpiau wedi atgyfnerthu ymhellach yr angen i ymgorffori cydraddoldeb yn nulliau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn y diddordeb o’r newydd, mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r offer polisi a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i brif ffrydio cyfle cyfartal, effeithiolrwydd yr offer hwn a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar eu heffeithiolrwydd.  Datblygwyd y diffiniad o’r offer polisi a ddefnyddiwyd gan Jacob et al. (2008) sy’n gwahaniaethu rhwng offer cyfathrebu, sefydliadol a gweithdrefnol.

Cynhaliwyd yr astudiaeth rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2001, ac roedd yn cyfuno ymchwil desg, gan dynnu ar gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru, chwiliad o gronfeydd data academaidd a llenyddiaeth lwyd ar-lein, gyda thystiolaeth sylfaenol o bedwar cyfweliad elitaidd a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2021.