Deddfwriaethu i Wahardd Rhiant Rhag Cosbi Plant yn Gorfforol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried beth allwn ni ei ddysgu gan wledydd sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth i wahardd rhieni rhag cosbi plant yn gorfforol. Yn seiliedig ar adolygiad o ddeddfwriaeth yr awdurdodaethau perthnasol, ac ymchwil amdanynt, mae’n ceisio nodi’r ffactorau i’w hystyried wrth ddatblygu cynigion i ddiwygio.

Erbyn 1 Mai 2018, mae 53 o wledydd wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n gwahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae rhai gwledydd wedi diddymu’r amddiffyniad o gosb resymol yn eu cyfraith droseddol. Mae gwledydd eraill, rhai ohonynt wedi diddymu amddiffyniad cosb resymol yn gyntaf, wedi ymgorffori deddfau sy’n gwahardd rhieni rhag cosbi plant yn gorfforol yn eu Codau Sifil. Mae gwledydd eraill yn ystyried diwygio eu deddfau.

Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn cefnogi’r farn y gall deddfu ar gosb gorfforol gyfrannu at newidiadau yn yr agweddau tuag at gosbi corfforol a sut caiff hyn ei ddefnyddio. Hefyd mae angen ymgyrchoedd gwybodaeth a chefnogaeth i rieni er mwyn i’r ddeddfwriaeth fod yn effeithiol.