Darparu ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal ac sydd mewn Perygl o Ddigartrefedd

Yn dilyn cais gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, gwnaeth y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru gomisiynu Anna Whalen i roi cyngor ar y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal ac sydd mewn perygl o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ogystal â dadansoddi darpariaeth o’r fath.

Mae’r adroddiad yn nodi bod effeithiolrwydd dulliau cydweithio rhwng gwasanaethau tai a gwasanaethau plant a darpariaeth Cefnogi Pobl ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru. Mae’n nodi, er bod y ddeddfwriaeth digartrefedd newydd yn cynnig cyfle i atal digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael gofal drwy gynllunio’n gynharach ar y cyd, na fydd yr hyn a ddarperir gan Cefnogi Pobl na’r cynllun ‘Pan Fydda i’n Barod’ newydd yn ddigon i roi’r cymorth sydd ei angen ar bawb sy’n gadael gofal, yn enwedig y rhai ag anghenion cymhleth a lluosog.

Mae’r adroddiad yn argymell y canlynol:

  • byddai gwella’r ffordd y caiff data eu casglu a’u dadansoddi yn helpu i wella dealltwriaeth yn genedlaethol ac yn lleol o ddigartrefedd yn achos y grŵp hwn a helpu i gomisiynu;
  • mae paratoi ar gyfer annibyniaeth, gan gynnwys datblygu llythrennedd ariannol a rheoli disgwyliadau, yn ffactorau allweddol i roi sylw iddynt;
  • ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cymorth cyson gan oedolyn y gellir ymddiried ynddo o ran yr hyn a all wneud gwahaniaeth i lwyddiant y rhai sy’n gadael gofal fel oedolion ifanc;
  • gallai fframwaith cenedlaethol neu ‘lwybr’ i lety a chymorth helpu i wella cysondeb o ran y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ar gyfer y grŵp hwn ledled Cymru;
  • gallai’r Llywodraeth gymryd mwy o fesurau i roi terfyn ar y defnydd o lety anaddas ar gyfer y grŵp hwn;
  • gallai cydgomisiynu leihau’r tebygolrwydd y bydd y canlyniadau’n wael i bobl sy’n gadael gofal, gan gynnwys lleihau cyfnodau o ddigartrefedd, a lleihau costau hirdymor sy’n cael eu talu o bwrs y wlad ym meysydd iechyd, cyfiawnder troseddol, llesiant, gofal cymdeithasol a thai;
  • mae sawl enghraifft o arloesi ar draws awdurdodau lleol, asiantaethau yn y trydydd sector a chymdeithasau tai. Mae rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda yn ffactor allweddol i leihau digartrefedd a sicrhau amrywiaeth o ganlyniadau gwell i bobl sy’n gadael gofal.