Cyrhaeddiad addysg: Ymateb i bandemig y coronafeirws

Mae pandemig y coronafeirws wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau addysgol presennol ledled y byd. Amcangyfrifir y bydd blynyddoedd o gynnydd o ran gwella mynediad at addysg a’i hansawdd yn cael ei golli, a rhaid i’r camau fydd yn cael eu cymryd i leihau’r effaith hefyd geisio creu system addysg decach wrth symud ymlaen.

Yn ogystal â thargedu cyllid ac adnoddau i leihau’r risg i gyrhaeddiad pob person ifanc, bydd polisïau addysg tymor hwy yn elwa o sylfaen dystiolaeth gref lle mae’n bosibl:

  1. Datblygu a gweithredu dysgu ac asesu cyfunol sy’n cynnwys plant tlotach a’r rhai ag anghenion dysgu neu hygyrchedd ychwanegol.
  2. Nodi’r arfer gorau wrth ddylunio a darparu datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu.

Mae cynllunio a galluogi ffyrdd newydd o weithio o ganlyniad i’r pandemig yn gosod gofynion ychwanegol ar ysgolion. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad ychwanegol i ddarparu’r gallu ychwanegol sydd ei angen fel nad yw addysg yn cael ei darfu wrth i’r staff addysgu weithredu newidiadau ac ymgymryd â’r datblygiad proffesiynol angenrheidiol.

Mae’r nodyn hysbysu hwn yn crynhoi canfyddiadau cyntaf y dystiolaeth ar yr ymateb addysgol ryngwladol i bandemig y Coronafirws, a’r goblygiadau posibl i Gymru. Cyhoeddir crynodebau polisi sy’n syntheseiddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael ar y tri phwnc canlynol y flwyddyn nesaf:

  • Addysgu a dysgu cyfunol (gan gynnwys darpariaeth asyncronig);
  • ‘Ymyriadau dal i fyny’; a
  • Modelau dysgu a datblygu proffesiynol.