Cynyddu’r Cyfraniad Dinesig gan Brifysgolion

Mae’r adroddiad yn deall cenhadaeth ddinesig prifysgolion fel eu hymrwymiad i wella’r  cymunedau lleol a rhanbarthol y maent yn rhan ohonynt. Mae cenhadaeth ddinesig yn gydnabyddiaeth bod rhwymedigaeth ar brifysgolion i weithredu fel hyn, ac ymgysylltu dinesig yw’r broses ar gyfer ei gyflawni.

Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar allu prifysgolion i ymgymryd ag ymgysylltu dinesig yng Nghymru: dechreuadau’r sefydliad a’i ddatblygiad wedyn, y cyd-destun polisi addysg uwch yng Nghymru a’r DU a globaleiddio addysg uwch a’r economi yn gyffredinol.

Gwneir chwe argymhelliad:

  • Mabwysiadu gweledigaeth strategol ar gyfer y sector AHO yng Nghymru;
  • Cynnwys ymgysylltu dinesig yn agwedd ffurfiol ar berfformiad prifysgolion;
  • Datblygu clystyrau rhanbarthol o sefydliadau fel modd i gryfhau cynllunio a phenderfynu seiliedig ar leoedd rhwng addysg uwch a rhannau eraill o gymdeithas ac economi Cymru;
  • Cymell cydweithio rhwng prifysgolion a rhannau eraill o’r sector addysg ôl-orfodol;
  • Sefydlu ac ehangu mynediad a dysgu gydol oes, yn cynnwys addysg oedolion, fel nodweddion a chyfrifoldebau hanfodol yn y genhadaeth ddinesig;
  • Darparu cyllid ymgysylltu i brifysgolion sy’n amodol ar gydweithio ac alinio â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru.