Cynyddu effaith y rhwydwaith What Works ledled y DU

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd yn sgil prosiect Cronfa Strategol yr ESRC o dan arweiniad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Queen’s Belfast, What Works yr Alban, a’r Gynghrair Tystiolaeth Ddefnyddiol.

Drwy gyfres o uwchgynadleddau lle’r oedd llunwyr polisi ac ymarferwyr yn bresennol, ynghyd â thystiolaeth gan y rhwydwaith What Works, nod y prosiect hwn oedd:

  • Annog mwy o gydweithredu ymhlith Canolfannau What Works.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith What Works yn y cenhedloedd datganoledig.

Cynhaliwyd pum uwchgynhadledd yn 2018-19, yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ddigartrefedd ieuenctid, blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl ieuenctid, canlyniadau plant a phobl ifanc, a pherfformiad economaidd lleol. Cynhaliwyd bord gron terfynol gyda Chyfarwyddwyr Canolfannau What Works, Cadeirydd Gweithredol yr ESRC, Cyfarwyddwr Ymchwil yr ESRC, Cyfarwyddwr Cenedlaethol What Works a rhanddeiliaid allweddol eraill i drafod y canfyddiadau a ffyrdd o adeiladu arnynt.