Cynllunio ar gyfer adferiad ffyniannus, cyfartal a gwyrdd ar ôl pandemig Cofid 19

Mae’r papurau hyn yn ymwneud â negeseuon allweddol cyfres o gylchoedd trafod arbenigol wedi’u trefnu gan Brif Gyfreithiwr a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS.
Mae’r materion a drafodir yn y papurau hyn yn bwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer adferiad economaidd a chymdeithasol yn sgîl pandemig Cofid 19, ac yn berthnasol hefyd i wasanaethau cyhoeddus a chyrff eraill sy’n paratoi strategaethau adfer.

 

Ein canfyddiadau

Mae’r pandemig wedi cryfhau anghydraddoldeb o ran deilliannau iechyd, cyflwr tai, cyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd economaidd a llesiant.
Mae angen i strategaeth adfer Llywodraeth Cymru adlewyrchu’r ffaith bod sawl maes yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed a thargedu’r rhai sydd yn y perygl mwyaf.
Dylai blaenoriaethau eglur fod wrth wraidd strategaeth Llywodraeth Cymru. Mae angen i weinidogion bennu’r hyn y dylid rhoi’r gorau iddo yn ogystal â mentrau newydd.
Mae’n bwysig i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus lunio strategaethau adfer yn ôl yr egwyddorion canlynol:

  • Hyrwyddo ffordd gydlynol ymhlith adrannau gwladol a’r gwasanaethau cyhoeddus i gyd.
  • Ceisio dylanwadu ar bolisïau Llywodraeth San Steffan a denu buddsoddwyr.
  • Defnyddio tystiolaeth a phrofiad o bob cwr o’r byd yn sylfaen gadarn.

 

Meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt

Mae modelu’n awgrymu y gellid colli degawd o ymdrechion i gau bwlch cyrhaeddiad. Mae angen cydlynu trefn addysg y wlad i leddfu’r perygl hwnnw.
Rhaid i sector y gofal cymdeithasol fod yn flaenoriaeth. Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gweithwyr roedd eu cyfraniad yn allweddol yn ystod y pandemig a gofalu y bydd trefn ein gofal cymdeithasol yn gryfach ar gyfer y dyfodol.
Arweiniodd yr argyfwng iechyd at drawsffurfio’n gyflym rai gwasanaethau cyhoeddus megis gofal iechyd digidol, cydweithio ymhlith cyrff iechyd, adrannau gofal cymdeithasol a chymunedau, a chydlynu trefniadau llywodraeth wladol a lleol. Mae’n bwysig adeiladu ar hynny ac atal pethau a allai rwystro newid rhag dychwelyd.
Mae’r bobl wedi derbyn rôl ehangach y wladwriaeth ac mae’u hymddygiad wedi newid mewn ffyrdd a allai fod yn arwyddocaol. Dylai Llywodraeth Cymru geisio adeiladu ar y rheiny a’u hymgorffori i greu cymunedau tecach a mwy cynaladwy.

 

Argymhellion

Argymhellodd arbenigwyr y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ymdrech gydlynol i baratoi set o bolisïau uchelgeisiol, yn ôl tystiolaeth berthnasol, i gyflawni’r canlynol:

  • Hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol ac addysg bellach, yn ogystal ag addysg uwch.
  • Symleiddio rhaglenni cyflogadwyedd a chymorth masnachol.
  • Hyrwyddo caffael rhagweithiol ac ymdrechion i ddylanwadu ar farchnadoedd yn ôl set fechan o flaenoriaethau i economi Cymru er adfer gwyrdd a chreu gwerth ledled y wlad.
  • Symleiddio a thargedu rhwyd diogelwch cymdeithasol Cymru trwy bwerau datganoledig yn y lle cyntaf.