Codi oedran cyfranogi mewn addysg i 18

Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae’r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal ag yng Nghymru.

Mae gwledydd sydd wedi codi oedran cyfranogiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf (gan gynnwys nifer o daleithiau UDA ac Awstralia yn ogystal â Lloegr) wedi dadlau y byddai gweithlu â chymwysterau gwell yn gwella allbwn a pherfformiad economaidd mewn marchnad economaidd sy’n dod yn fwyfwy byd-eang. Mewn rhai achosion, cefnogwyd hynny gan agenda gynhwysiant, gydag ymrwymiad y byddai gorfodi cyfranogiad parhaus mewn addysg (neu hyfforddiant) am gyfnodau hwy yn helpu i gau’r bwlch o ran anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i archwilio goblygiadau dilyn y polisi hwn yng Nghymru, gan gynnwys sut y gallai ryngweithio â’r diwygiadau parhaus i oedran ysgol a darpariaeth ôl-16 yng Nghymru, ac ystyried polisïau amgen sy’n canolbwyntio ar leihau gadael yr ysgol yn gynnar yn hytrach na pholisïau sy’n ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i bobl ifanc barhau i ddysgu am gyfnodau hwy.

Er mwyn archwilio’r materion uchod, rydym wedi comisiynu adolygiad pen dest o’r llenyddiaeth i edrych ar dystiolaeth ryngwladol ynghylch buddion a heriau codi oedran cyfranogiad, yn ogystal â pholisïau amgen. Ategir hyn gan ddadansoddiad meintiol i fodelu effaith codi oedran cyfranogiad yng Nghymru. Er mwyn deall sut byddai’r polisi hwn yn rhyngweithio â diwygiadau polisi cyfredol ac arfaethedig yng Nghymru, cynhaliwyd nifer fach o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector addysg ehangach.

Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn dangos:

  • At ei gilydd, bod y dystiolaeth i gefnogi deddfwriaeth codi oed cyfranogiad yn wan. Mae dadansoddiad rhyngwladol o ddata hanesyddol yn seiliedig ar effaith codi oedran gadael ysgol (ROSLA) yn nodi ei fod yn cael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad o ran cymwysterau, cyfraddau diweithdra ac enillion yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’r effaith ar wella cyfraddau cadw mewn dysgu ôl-16 yn amheus.
  • Nododd tystiolaeth ryngwladol ar effaith codi oedran gadael ysgol fod y costau yn fater allweddol i fynd i’r afael ag ef, yn ogystal â’r amser sylweddol sy’n angenrheidiol i gynllunio gweithrediad.
  • Ar sail y dystiolaeth, byddai codi oed cyfranogiad yn cynhyrchu buddion cyfyngedig i’r bobl ifanc sydd yn ymgysylltu leiaf â dysgu. Gallai buddsoddiad sylweddol a chreadigrwydd wrth ddatblygu pecynnau dysgu i ddiwallu eu hanghenion gael mwy o effaith.
  • Mae tystiolaeth ryngwladol yn tynnu sylw at yr angen am ganolbwyntio ymdrechion ar annog ymgysylltiad parhaus â dysgu a lleihau gadael yn gynnar.

Nododd canfyddiadau o gyfweliadau â naw hysbysydd allweddol (a oedd yn cynnwys uwch lunwyr polisi, yn ogystal ag uwch gynrychiolwyr o sefydliadau sy’n chwarae rhan allweddol mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 ledled Cymru) y canlynol:

  • Er eu bod yn cytuno bod pobl ifanc yn elwa o barhau i ddysgu tan 18, dangosodd hysbyswyr allweddol yng Nghymru ymateb llugoer i’r syniad o godi oedran cyfranogiad. Mynegwyd pryderon ynghylch sut byddai system orfodol yn cael ei gorfodi ac effaith hynny ar bobl ifanc o grwpiau anodd eu helpu / anodd eu cyrraedd.
  • Nodwyd ffafriaeth o blaid gwella cyfraddau cyfranogi, cadw a chyflawni trwy sicrhau cynnig ôl-16 gwell a hygyrch ledled Cymru.

Gan ystyried y ddeddfwriaeth bresennol ac arfaethedig yn y gofod addysg a hyfforddiant ôl-16 (ee gweithredu’r Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru a’r diwygiadau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol arfaethedig [PCET]), mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • Canolbwyntio ar leihau cyfraddau athreuliad ôl-16 a chyflwyno strategaeth i leihau gadael (yr ysgol) yn gynnar;
  • Darparu cynnig ôl-16 cydlynol a chyson sy’n cyd-fynd ag amcanion Cwricwlwm Newydd Cymru;
  • Cefnogi newydd-ddyfodiaid i’r farchnad lafur a chryfhau eu mynediad at ddysgu parhaus; a
  • Darparu cyllid parhaus ar gyfer mentrau atal ac ailintegreiddio wedi’u targedu at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.