Beth yw rôl tystiolaeth wrth lunio polisi atal hunanladdiad yng Nghymru?

Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth ledled y byd.¹ Ledled y byd, mae 800,000 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn, sy’n cyfateb i tua un farwolaeth trwy hunanladdiad bob 40 eiliad (WHO, 2021). Wrth ystyried nifer y teuluoedd, ffrindiau, a chymunedau mewn profedigaeth y tu ôl i bob un o’r marwolaethau hyn, mae effaith hunanladdiad ar ein byd yn aruthrol.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu strategaethau atal hunanladdiad cenedlaethol clir a chydlynol wrth iddynt feithrin cyfrifoldeb ac atebolrwydd ymhlith rhanddeiliaid, nodi bylchau mewn deddfwriaeth a darpariaeth gwasanaethau, a nodi’r adnoddau dynol ac ariannol sydd eu hangen ar gyfer ymyrraeth (WHO, 2021). Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn datgan y dylai strategaeth atal hunanladdiad genedlaethol ddarparu ‘canllawiau awdurdodol ar weithgareddau atal hunanladdiad allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth h.y. nodi[y] beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio‘ (WHO, 2012).

Mae’r canllawiau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi atal hunanladdiad cenedlaethol. Fodd bynnag, mae hunanladdiad yn gyd-destun heriol unigryw ar gyfer casglu tystiolaeth, gan fod data ar lefel poblogaeth yn aml yn hwyr ac yn anfanwl. Ar ben hynny, mae’r gwir reswm pam mae pob bywyd unigol yn cael ei golli oherwydd hunanladdiad – yn ôl ei union ddiffiniad – yn amhosibl. Felly, rhaid tynnu ar ystod eang o dystiolaeth, arweiniad, arbenigedd ac ymchwil i ateb yr hyn na ellir ei ateb.

At hynny, nid yw’r syniad o dystiolaeth wedi’i ddiffinio’n gyffredinol gan weithredwyr polisi, ac mae’r ddealltwriaeth o sut mae’r amrywiad hwn yn dangos ei hun yn y modd y caiff tystiolaeth ei defnyddio a’i gwerthfawrogi yn fan dall empirig (MacKillop, Quarmby a Downe, 2020). Yn ogystal, mae polisi atal hunanladdiad wedi bod yn destun ymchwiliad academaidd cyfyngedig iawn, ac ychydig a wyddys am y broses o’i gynhyrchu, llawer llai am rôl tystiolaeth yn y broses honno.

Felly, drwy archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi atal hunanladdiad Cymru, a chyfweld â gweithredwyr polisi allweddol yn y maes, nod y prosiect hwn yw cael rhagor o wybodaeth am rôl tystiolaeth wrth lunio polisïau atal hunanladdiad yng Nghymru.

 

¹ Sefydliad Iechyd y Byd, 2021.

 

DOI: https://doi.org/10.54454/20220708