Ailgylchu mwy o wastraff cartref drwy wyddor ymddygiadol

Er mwyn helpu i ddeall sut y gallai ymyriadau newid ymddygiad helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu aelwydydd ymhellach, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru weithdy ym mis Mai 2018. Roedd y gweithdy wedi dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd, gan gynnwys swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, cyfarwyddwyr rheoli gwastraff a’r amgylchedd awdurdodau lleol, cadwyn flaenllaw o archfarchnadoedd, cymdeithasau landlordiaid, academyddion ac ymarferwyr newid ymddygiad. Gwnaeth yr Athro Stewart Barr (Prifysgol Caerwysg), yr Athro Anna Davies (Coleg Prifysgol Dulyn) a Carolin Reiner o The Behavioural Insights Team (BIT) gyfrannu gwybodaeth arbenigol at y digwyddiad a chyflwyno papurau hefyd.

Nod y gweithdy oedd helpu i feithrin cyd-ddealltwriaeth o ddulliau o newid ymddygiad a thrafod syniadau cychwynnol ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad priodol yng Nghymru.