Ail-adeiladu yn well? Blaenoriaethau ar gyfer Ail-adeiladu ar ôl Pandemig Coronafeirws

Gyda brechlynnau effeithiol ar gyfer COVID-19 bellach yn realiti, mae’r meddwl nawr yn troi at y ffyrdd gorau i ymadfer o’r ergydion economaidd a chymdeithasol tymor hirach a achoswyd gan y pandemig.  Byddwn yn byw gydag adladd y pandemig am beth amser, gyda goblygiadau difrifol i’n heconomi, system addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, a chyllid cyhoeddus.

Amlygodd y pandemig anghydraddoldebau oedd eisoes yn bodoli mewn canlyniadau iechyd ond hefyd gwelwyd gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb gydag egni a hyblygrwydd i argyfwng iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg. Yr her fydd harneisio’r un creadigrwydd ac ymrwymiad i ail-adeiladu’n ôl yn well a chreu Cymru decach, fwy llewyrchus a gwyrddach.

Mae’r papurau hyn yn cyflwyno canfyddiadau chwe briffiad a gomisiynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd – Jeremy Miles AS, i lywio a herio syniadau cynnar Llywodraeth Cymru ynghylch ymadfer o’r pandemig.

Roedd y briffiadau’n canolbwyntio ar bynciau a ddewiswyd gan Weinidogion ac a helpodd i fframio a llywio gwaith Grŵp Arbenigol a gyfarfu â’r Gweinidog rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020. Bwydodd casgliadau’r grŵp i drafodaethau’r Cabinet am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

Y prif bynciau a drafodwyd yn ein papurau a’u prif negeseuon yw: