Adferiad ym maes addysg: Ymateb i bandemig y Coronafeirws

Mae cau ysgolion o ganlyniad i’r Coronafeirws wedi tarfu’n sylweddol ar ddysgu plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Yn y flwyddyn rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2021, collwyd hyd at 124 o ddiwrnodau ystafell ddosbarth fesul disgybl yng Nghymru. Mae effaith y tarfu hwn ar gyrhaeddiad addysgol wedi bod yn arbennig o ddifrifol i ddysgwyr difreintiedig a’r rhai sy’n agored i niwed. Yn y tymor hwy, yn ogystal ag ehangu anghydraddoldebau, mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhybuddio y bydd colli hanner blwyddyn o addysg (fel sy’n wir am y mwyafrif o blant), heb ymyriadau adferol i’w helpu i ddal i fyny, yn arwain at blant ysgol yn colli allan ar gyfartaledd o £40,000 mewn enillion oes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb drwy neilltuo dros £150 miliwn o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 drwy’r rhaglen Adnewyddu a Diwygio. Mae hyn yn cynnwys £35.8 miliwn i barhau â’r gefnogaeth a mentora pwrpasol i ddysgwyr drwy’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan gadw’r 1,800 o staff cyfwerth ag amser llawn a recriwtiwyd ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021, a chadw’r ffocws ar gymorth wedi’i dargedu ar gyfer y dysgwyr mwyaf agored i niwed a difreintiedig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud buddsoddiadau ychwanegol yn yr adferiad addysg, fel y £15 miliwn a neilltuwyd ar gyfer technoleg mewn addysg yn 2021/22.

Bydd llwyddiant ymdrechion i sicrhau adferiad ym maes addysg yn cael ei effeithio gan, ymhlith pethau eraill, y ffordd y mae ysgolion yn:

  • Adeiladu ar brofiadau dysgu o bell a dysgu cyfunol ac o bosibl yn eu datblygu;
  • Darparu ‘cymorth dal i fyny’ fel y’i gelwir, a’u dulliau a’u modelau ar gyfer gwneud hynny;
  • Cynllunio a chyflwyno datblygiad proffesiynol i athrawon.

Rydym ni yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’n partneriaid wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hymdrechion i helpu’r system addysg i ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â phandemig y Coronafeirws mewn ysgolion yn cael eu llywio gan y dystiolaeth ac arbenigedd gorau sydd ar gael. Roedd y cam cyntaf o’r gwaith hwn yn cynnwys llunio nodyn briffio cychwynnol yn crynhoi canfyddiadau’r cipolwg cychwynnol ar dystiolaeth ynghylch yr ymateb addysg rhyngwladol i bandemig y coronafeirws, a’r goblygiadau posibl i Gymru. Yna, datblygwyd tri briff polisi pellach yn ymwneud â’r pynciau a restrir uchod (h.y. addysgu a dysgu cyfunol; ymyriadau dal i fyny; a datblygiad proffesiynol athrawon).

Ar gyfer ail gam yr ymchwil hon, cynhaliodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfres o weithdai cyfranogol gydag arweinwyr ysgolion ac ystod o arweinwyr haen ganol, fel consortia rhanbarthol ac arweinwyr addysg awdurdodau lleol. Diben y gweithdai oedd:

  • rhannu canfyddiadau’r sesiynau briffio polisi;
  • rhannu syniadau, profiadau ac enghreifftiau sy’n seiliedig ar ymarfer a all ddod â’r dystiolaeth ‘yn fyw’;
  • datblygu syniadau ynglŷn â gweithredu; ac
  • archwilio sut y gellid teilwra ein hargymhellion ar gyfer cynulleidfaoedd penodol a sut y gallent ryngweithio â pholisïau ac arferion presennol ac arfaethedig.

Y gweithdai oedd pwynt hanner ffordd y prosiect, ac ar ôl hynny gwnaethom ddiwygio’r tri phrif briff yn seiliedig ar ymchwil newydd a syniadau a rannwyd yn ystod y gweithdai, ac yna creu allbynnau dilynol. Roedd yr allbynnau dilynol yn cynnwys adnoddau ymarferol ar bob un o’r tri phwnc sy’n defnyddio’r syniadau yn seiliedig ar ymarfer o’r gweithdy, ynghyd â’r canfyddiadau a amlinellwyd yn y briffiau polisi. Nod yr adnoddau hyn yw helpu addysgwyr yng Nghymru i roi’r canfyddiadau tystiolaeth a amlinellir yn y sesiynau briffio ar waith drwy amlinellu set ddefnyddiol o awgrymiadau ar gyfer athrawon ac arweinwyr.

Yn ogystal ag allbynnau ysgrifenedig y prosiect, mae’r cyflwyniadau a wnaed ar bob un o’r tri phwnc briffio yn ystod y gweithdai ar gael hefyd. Bydd holl allbynnau’r prosiect hefyd ar gael ar restr chwarae Hwb.

Gallwch hefyd glywed Becki Bawler a Harry Fletcher-Wood yn siarad â Manon Roberts ar ein podlediad PEP Talk am yr heriau i’r system addysg yng Nghymru o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws. Maent yn cynnig cipolwg ar sut y gallai Llywodraeth Cymru a’r system addysg ehangach geisio ymateb; gan ganolbwyntio’n benodol ar addysgu a dysgu cyfunol, a datblygiad proffesiynol athrawon.