2021 – Dan Adolygiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg byr o’r gwaith a wnaethom yn 2021, gyda hypergysylltiadau i’n hadroddiadau llawn wedi’u hymgorffori. Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad isod.

 

Croeso i’n hadolygiad o rai o uchafbwyntiau gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn 2021.

Yn ystod blwyddyn gynhyrchiol a thoreithiog arall i’w mwynhau, gwnaethom ddarparu tystiolaeth i Weinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ar ystod eang o heriau polisi pwysig sy’n wynebu Cymru. Roedd llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar effeithiau’r pandemig, gan gynnwys adroddiadau ar y canlynol:

  •  Rhagolygon a goblygiadau hirdymor gweithio o bell;
  • Sut y gall athrawon gefnogi myfyrwyr i ddal i fyny ar gyfleoedd dysgu a gollwyd; a
  • Rôl grwpiau cymunedol a thechnoleg o ran mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Ond ochr yn ochr â hyn, gwnaethom edrych ar rai o’r heriau sylfaenol a fydd gyda ni ymhell ar ôl y pandemig hefyd, gan gynnwys y canlynol:

  • Datgarboneiddio economi Cymru;
  • Dileu anghydraddoldeb hiliol;
  • Gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed; ac
  • Ymdopi ag effeithiau Brexit ar ffermio ac ar y farchnad lafur.

Mae ein hadroddiadau, sesiynau briffio polisi, sylwebaethau a phodlediadau ar y pynciau hyn a phynciau eraill ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan, a gobeithiwn y cewch wybodaeth sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol i chi ohonynt.

Rydym yn ddiolchgar i’r gwneuthurwyr polisi ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus y buom yn gweithio gyda hwy am eu hymrwymiad i lunio polisïau ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn diolch i’n Grwpiau Cynghori a Grwpiau Cyfeirio Gwasanaethau Cyhoeddus am eu cymorth parhaus a’u cyngor doeth, ac yn cydnabod y cyfraniadau hanfodol a wnaed gan yr arbenigwyr niferus, sefydliadau ymchwil a Chanolfannau ‘Yr Hyn sy’n Gweithio’ y cawsom y pleser o weithio gyda nhw yn ystod 2021.