2020 – Dan Adolygiad

Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg byr o’r gwaith a wnaethom yn 2020, gyda hypergysylltiadau i’n hadroddiadau llawn wedi’u hymgorffori. Gallwch chi lawrlwytho’r adroddiad isod.

 

2020 oedd y flwyddyn pan ddaeth ‘dilyn y wyddoniaeth’ yn fater o fyw neu farw. Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru buom yn gweithio’n ddiflino gyda gweinidogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu tystiolaeth annibynnol awdurdodol, nid yn unig ar bandemig y Coronafeirws ond ar ystod eang o bynciau eraill sydd wrth wraidd dadleuon polisi cyfredol.

Wrth gwrs, treuliwyd llawer o’n hamser ar y pandemig a’r mater polisi mawr arall yn ystod y deuddeg mis diwethaf – Brexit. Gwnaethom ddadansoddi goblygiadau ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer masnach, pysgodfeydd, ymfudo, a’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. A gwnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau ar ganlyniad economaidd a chymdeithasol y pandemig ac ar strategaethau ar gyfer adeiladu yn ôl yn well ac yn decach.

Gwnaethom hefyd fynd i’r afael â rhai heriau hirdymor pwysig eraill. Cwestiynau fel:

  • Sut i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol?
  • Sut allwn ni wella rhagolygon ar gyfer plant a phobl ifanc sydd yng ngofal awdurdod lleol?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y gofal cartref o ansawdd uchel y maen nhw’n ei haeddu?
  • Pa sefydliadau a seilwaith fydd yn gyrru cynhyrchiant ac yn cynyddu gwytnwch economi Cymru?
  • Sut mae Cymru’n datblygu arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol ac yn sicrhau bod y rhai mewn swyddi uwch yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu?

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynhyrchu mwy na 60 o adroddiadau a sylwebaethau ar y pynciau hyn ac eraill, ynghyd â sesiynau briffio polisi, podlediadau, gweithdai arbenigol a digwyddiadau cyhoeddus. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd ac wedi sicrhau bod Cymru’n parhau i gyfrannu at rwydwaith What Works y DU ac yn elwa ohono.

Mae’r galw am ein gwaith a’r diddordeb ynddo wedi parhau i dyfu ac mae hyn yn dyst i ymroddiad, gallu a gwytnwch y tîm cyfan yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â chefnogaeth ein Grwpiau Cyfeirio Gwasanaethau Cynghori a Chyhoeddus ac, yn bwysicaf oll, ymrwymiad gweinidogion, swyddogion ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod polisïau’n cael eu llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael.

Rydyn ni’n diolch iddyn nhw, ein cyllidwyr craidd – y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru – a phawb sydd wedi gweithio gyda ni yn yr hyn a brofodd i fod yn ddeuddeg mis hynod heriol, ond cynhyrchiol iawn.