Twf Cynhwysol yng Nghymru

Mae gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad o ran datblygu economi fwy cynhwysol.

Yn ystod trafodaeth bord gron ym mis Gorffennaf 2017, gwnaeth arbenigwyr ddarparu tystiolaeth o’r anghydraddoldebau presennol sy’n effeithio ar dwf ledled y DU, yn ogystal ag ymchwilio i ffyrdd y gallai Cymru ddatblygu model mwy cynhwysol.

Cydnabuwyd y cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, ond roedd consensws hefyd y gellir gwneud mwy drwy ddefnyddio ysgogiadau polisi presennol a chynnig arweinyddiaeth a fframweithiau er mwyn annog eraill i weithredu. Awgrymwyd y meysydd gweithredu allweddol canlynol:

  • Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei hystyried yn fframwaith gwych ar gyfer datblygu model economaidd newydd sy’n annog twf cynaliadwy ym mhob rhan o Gymru, ac mae’n sicrhau bod yr agenda twf cynhwysol wrth wraidd pob penderfyniad polisi mawr;
  • Tynnwyd sylw at Fargeinion Dinesig fel ffordd bosibl arall o hyrwyddo twf cynhwysol – a gellid asesu eu llwyddiant yn ôl pa mor dda y maent yn gwneud hynny;
  • Cytunwyd bod prosesau caffael y sector cyhoeddus yn ffordd allweddol o ysgogi twf cynhwysol, a chredwyd bod prosesau caffael yn lleol yn bwysig i roi hwb i economïau lleol. Gellid defnyddio prosesau contractio’r sector cyhoeddus yn fwy effeithiol hefyd er mwyn sicrhau bod cyflenwyr drwy’r gadwyn gyflenwi yn talu cyflogau da, yn creu prentisiaethau, yn cyflogi pobl leol ac yn cynnig cyfleoedd i weithwyr gael hyfforddiant a chamu ymlaen yn eu swyddi;
  • Gwnaeth arbenigwyr hefyd alw ar y llywodraeth i gefnogi busnesau ‘bob dydd’, drwy weithio gyda chyflogwyr lleol i wella ansawdd swyddi a datblygu modelau busnes cryf;
  • Dylid hefyd fonitro cynnydd tuag at sicrhau twf cynhwysol, a dadleuodd arbenigwyr fod angen i lunwyr polisi symud y tu hwnt i ddangosyddion traddodiadol megis gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar weithredu ar yr economi, a gyhoeddwyd yn 2017, yn sicrhau bod twf cynhwysol wrth wraidd ei gweledigaeth, ac aethpwyd i’r afael â sawl maes gweithredu allweddol y tynnwyd sylw atynt yn ystod y digwyddiad hwn fel mater o flaenoriaeth.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg ar gais.