Polisi a Gwleidyddiaeth Cymru mewn Cyfnod Digyndsail

Ar 24 Mai 2019, trefnodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) gynhadledd o’r enw, ‘Polisi a gwleidyddiaeth Cymru mewn cyfnod digyndsail.’ Daeth 45 o academyddion, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi ynghyd yn y gynhadledd i drafod yr heriau y mae Cymru’n eu hwynebu ar hyn o bryd a’r rhai y bydd hi’n eu hwynebu, yn benodol mewn perthynas â Brexit a’r pwerau newydd a fydd yn cael eu datganoli. Rhannodd sawl un o’r cynadleddwyr eu safbwyntiau am y gynhadledd:

 

Daniel Roberts (Myfyriwr PhD, Prifysgol Abertawe): “Roedd dod i’r gynhadledd Unprecedented Times Wales a chyflwyno ynddi’n brofiad ardderchog. A minnau’n fyfyriwr PhD, roedd gallu cyflwyno fy ngwaith ymchwil i gynulleidfa o arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol o fudd enfawr. Fe’m galluogodd i gael safbwyntiau newydd am fy fframwaith, data, a chasgliadau sy’n dod i’r amlwg gan ffigurau enwog ym myd academaidd, gwleidyddiaeth a’r trydydd sector yng Nghymru. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio a chwrdd â phobl na fyddwn i fel arall wedi’u cyfarfod – ac o hyn, mae cynlluniau ar gyfer cydweithio pellach eisoes ar waith. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

 

Rhiannon Heledd Williams (Arbenigwr Materion Cymreig, Tŷ’r Cyffredin y DU): “Trefnwyd y gynhadledd yn dda iawn, gydag amrywiaeth o siaradwyr, ac roedd y staff yn groesawgar iawn. Roedd cydbwysedd addas rhwng cyflwyno a thrafod. Rhoddodd y papurau a ddarparwyd drosolwg o’r materion y mae Cymru’n eu hwynebu heddiw, ac fel arbenigwr i Bwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, gwnaethant fy annog i feddwl am ymholiadau posibl yn y dyfodol. Rhoddodd y papurau hefyd gwmpas a chyd-destun eang, yn ogystal â thynnu sylw at astudiaethau achos mwy manwl, a rhoddodd sylfaen dda i archwilio materion o fewn fframwaith lleol a chenedlaethol. Rwy’n gobeithio y bydd cynhadledd debyg yn cael ei threfnu’n fuan, oherwydd bod prinder cynadleddau sy’n canolbwyntio ar wleidyddiaeth yn benodol yng Nghymru – bwlch o ran trafodaeth y mae angen ei lenwi.”

 

Bob Smith (Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd): “Dyma gyfle i gyflwyno rhywfaint o’m gwaith fy hun a chael adborth adeiladol a beirniadol o safbwyntiau perthnasol gwahanol y tu hwnt i’m maes polisi fy hun, yn ogystal â chyfle i ddarganfod mwy am ehangder yr ymchwil ardderchog sy’n cael ei gwneud yng Nghymru ynghylch gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus. Cafwyd dadleuon a thrafodaethau diddorol dros ben am rai themâu a rennir (anghenion tystiolaeth, dulliau ymchwil a damcaniaethau, a’r heriau o ddatblygu polisi) gan groestoriad eang o academyddion, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o set amrywiol o gefndiroedd. Yn sicr gwnaeth y digwyddiad roi rhywbeth i’w ystyried o ran fy ngwaith fy hun. Yn bwysicach, 20 mlynedd ar ôl datganoli gwleidyddiaeth, dyma gynhadledd a oedd yn cynnig gwaith i ysgogi’r meddwl, a ddylai gael effaith gadarnhaol ar ddatblygu polisi cyhoeddus yng Nghymru.”

 

Matt Wall (Athro Cyswllt mewn Gwleidyddiaeth, Prifysgol Abertawe): “A minnau’n Gyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD, roeddwn i wrth fy modd ar y ffordd y daeth y digwyddiad at ei gilydd. Gwnaeth yr ystod eang o sefydliadau ac ymarferwyr a gymerodd ran argraff arnaf yn benodol. Un o brif nodau’r rhwydwaith, a sefydlwyd ym mis Medi 2018, oedd dod ac ymchwilwyr academaidd ynghyd â rhanddeiliaid allweddol yng nghymuned polisi Cymru. Cyflawnodd y gynhadledd hon yr amcan hwnnw i raddau helaeth, a gwelais lawer o gysylltiadau’n cael eu meithrin yn ystod y sgyrsiau amrywiol a rhyngddynt. Dylid canmol Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am arwain y gynhadledd hon, yn ogystal ag aelodau o staff yn WISERD a fy nghydweithiwr ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Bettina Petersohn, a oedd yn ganolog i gydlynu nifer o agweddau ar y digwyddiad.”

 

Bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ceisio trefnu digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf gyda WISERD.