Mae angen i ni siarad am gaffael

Ar 4 Chwefror fe gyhoeddon ni adroddiad newydd pwysig ar gaffael. Mae Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus yn dadlau bod angen i wleidyddion a phrif weithredwyr ddefnyddio caffael yn strategol i fwyafu’r canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer eu cymunedau lleol, yn hytrach na mynd am yr opsiwn cost isaf yn unig.

Amlygodd y digwyddiad lansio gydag academyddion uwch, swyddogion o Lywodraeth Cymru, rheolwyr awdurdodau lleol a phanel o arbenigwyr oedd yn cynnwys John Tizard (cyd-awdur yr adroddiad), Liz Lucas (Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) a Benoit Guerin, (Ymchwilydd Uwch yn Athrofa’r Llywodraeth) rai negeseuon pwysig.

 

  1. Nid mater syml o ‘wneud neu brynu’ yw hyn

Roedd ein panelydd John Tizard yn dadlau mai darpariaeth fewnol ddylai fod yn opsiwn diofyn ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig rhai sy’n troi o gwmpas pobl, megis iechyd a gofal cymdeithasol.   Lle gellir gwneud achos cryf o blaid contractio gwasanaeth allan, mae angen i gynghorau gadw eu capasiti mewnol er mwyn gosod safonau a rheoli contractau’n effeithiol.  Pwysleisiodd y cyfranogwyr yn ein digwyddiad nad darparu gwasanaeth yn allanol neu’n fewnol yw’r unig opsiynau: gall cyrff cyhoeddus ddyfarnu a rheoli grantiau, sy’n aml yn fwy addas ar gyfer mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac y mae’n ofynnol i awdurdodau lleol eu hyrwyddo fel darparwyr gwasanaethau gofal a chymorth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.  Gellir defnyddio grantiau i annog arloesedd a chefnogi arbrofion.

 

  1. Mae angen gwell gwybodaeth am farchnadoedd arnom ni

Mae ein gwariant blynyddol ar gaffael yn £6 biliwn, felly mae cyfrifoldeb ar y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddiogelu buddiannau dinasyddion wrth ddarparu gwasanaethau a mwyafu gwerth cyhoeddus ei fuddsoddiadau.  Bu ein panelwyr Benoit Guerin a John Tizard, oedd yn myfyrio ar fethiannau sgandalau diweddar wrth gontractio gwasanaethau allan, yn amlinellu eu hargymhellion ar gyfer adrodd am ddata yn agored a storfa ganolog, neu ‘Lyfr Domesday’, fyddai’n cynnwys manylion pwy sy’n prynu beth gan bwy a pha mor dda mae’r contract yn perfformio.  Mae manteision mynediad i wybodaeth o’r fath yn eang: penderfyniadau mwy gwybodus o ran gwariant a rheoli risg; tystiolaeth ar gyfer craffu ar gyflenwyr a’u herio; ac atebolrwydd i’r trethdalwr. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod tryloywder contractau yn arwain at fwy o ymgeiswyr amrywiol, a bod hynny’n arwain yn ei dro at fargeinion gwell.  Roedd pryderon am wybodaeth fasnachol sensitif ac achosion posibl o dorri’r gyfraith cystadleuaeth, fodd bynnag, roedd ein panelwyr yn ein sicrhau, fel mater o ddiddordeb i’r cyhoedd, y dylai gwybodaeth fanwl, safonol am bob contract cyhoeddus gael ei chyhoeddi ac y dylid sicrhau bod contractwyr yn cynnal yr un safonau â’r cyrff cyhoeddus sy’n eu contractio.

 

  1. Efallai nad oes arnom angen strategaeth caffael newydd

Fis Medi diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ar y pryd fod strategaeth caffael newydd yn cael ei datblygu, yn diweddaru  Datganiad Polisi Caffael 2015, ond roedd ein panelydd llywodraeth leol, Liz Lucas, yn cwestiynu a oedd angen strategaeth newydd, gan gyfeirio at y cyfarwyddyd clir sydd eisoes yn bodoli o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’r Ddeddf yn pennu caffael fel sbardun allweddol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae tîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn datblygu  canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus drwy eu rhaglen Celfyddyd y Posibl. Felly, yn lle strategaeth newydd, roedd Liz yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhaglenni fydd yn datblygu capasiti caffael ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

 

  1. Allwn ni ddim fforddio peidio â chodi caffael i’r brig

Roedd ein panelwyr yn dadlau bod angen i wleidyddion blaenllaw a phrif weithredwyr gymryd caffael yn fwy o ddifrif a rhoi caniatâd i swyddogion caffael arloesi, yn enwedig mewn achosion lle mae buddion neu arbedion yn cronni yn y tymor hwy neu’r tu allan i’w hadran neu eu sefydliad eu hunain.  Tra bod caffael yn dal i gael ei weld fel y lleiaf o’r gwasanaethau ariannol, ac fel swyddogaeth dechnegol a thrafodion sy’n canolbwyntio ar yr opsiynau cost isaf, byddwn ni’n colli cyfleoedd i ymgymryd â phroses cyn-caffael sy’n ychwanegu gwerth a gweithgareddau rheoli/cyflawni contractau.

 

  1. Mae’n bryd ail-werthuso caffael, fel proffesiwn a swyddogaeth

Mae degawd o gyni wedi dileu capasiti i gaffael.  O ganlyniad, mae cynghorau heb y gallu na’r amser i feddwl am ffyrdd gwahanol o ddarparu gwerth gorau.  Roedd ein panelwyr yn galw am fath newydd o swyddog caffael sy’n deall pŵer caffael fel galluogwr cynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ac yn gallu gweithredu ar lefel strategol. Rhaglenni hyfforddi pwrpasol yw rhan o’r ateb, ond er mwyn denu a chadw doniau mae angen i ni godi proffil caffael yn y sector cyhoeddus ac annog rhwydweithiau proffesiynol i feithrin arfer da. Ac mae angen inni weithio’n fwy hyblyg ac ar y cyd fel bod cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn rhannu arbenigedd caffael arbenigol na allant ei fforddio wrth weithredu ar eu pen eu hunain.

 

Felly, beth nesaf?

Roedd cyfranogwyr yn ein digwyddiad yn cytuno ar yr angen am newidiadau sylfaenol yn ein dull o gaffael gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Yma yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ein nod yw helpu i gefnogi hyn, ac rydym ni’n edrych ymlaen at barhau’r sgwrs pan fyddwn ni’n lansio ein hadroddiad nesaf ar Gaffael Cyhoeddus Cynaliadwy yn fuan.