Model Preston: Datrysiad i Gymru?

Mae caffael yn symud i fyny’r agenda. Yng Nghymru, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cefnogi diwygio caffael ac mae caffael wedi’i awgrymu fel ffordd i gryfhau’r economi sylfaenol gan y Dirprwy Weinidog Lee Waters. Mae’r ‘model Preston’ wedi’i gyfeirio ato yn aml fel enghraifft o ddefnyddio caffael cyhoeddus er lles cymdeithasol. Ond beth yw’r model Preston? A oes tystiolaeth i’w gefnogi? A sut fyddai’n gweithio i Gymru?

 

Beth yw’r model Preston?

Mae Model Preston yn seiliedig ar ‘adeiladu cyfoeth cymunedol’, syniad a ddatblygwyd gan y felin drafod o’r Unol Daleithiau The Democracy Collaborative. Adeiladu cyfoeth cymunedol yw’r syniad y gall ‘cadw mwy o gyfoeth dinesig o fewn lleoliad roi hwb i dwf a gwydnwch economaidd yr ardal benodol honno drwy wella effeithiau lluosydd lleol’.

Elfen fwyaf ddadleuol y model Preston yw ei gefnogaeth o ‘gynyddu manteision economaidd a chymdeithasol lleol’ drwy strategaethau caffael lleol. Caiff hyn ei gamddeall weithiau fel ffafrio cyflenwyr lleol yn uniongyrchol, ond nid yw hyn yn gywir. Yn hytrach, anogir ‘sefydliadau angor’ fel awdurdodau lleol, ysgolion a gwasanaethau brys i gydweithio gyda’r awdurdod lleol wrth ddefnyddio ystod o strategaethau caffael sy’n sicrhau’r enillion lleol mwyaf posibl. Gall y strategaethau hyn gynnwys torri contractau mawr i fyny neu ychwanegu cymalau gwerth cymdeithasol at gontractau. Er na ffafrir busnesau lleol, efallai eu bod mewn lle gwell i fodloni’r gofynion hyn.

Er ei fod yn cael sylw eang yn y cyfryngau, dylid nodi mai dim ond un ffactor yw caffael lleol ym model adeiladu cyfoeth cymunedol Cyngor Dinas Preston. Mae nodau eraill yn cynnwys hyrwyddo’r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr lleol ac annog a hwyluso’r defnydd o fodelau perchnogaeth gydweithredol neu gyfranogol, math o ‘ddemocratiaeth economaidd’.

 

A oes tystiolaeth i’w gefnogi?

Nid oes llawer o dystiolaeth ar effaith adeiladu cyfoeth cymunedol nac, yn gulach na hynny, arferion caffael lleol yn y DU. Nid yw hyn yn syndod, gan fod y rhain yn ddulliau weddol newydd. Er hynny, mae arwyddion bod model Preston efallai wedi cael canlyniadau ffafriol. Yn 2016/17, gwariodd sefydliadau angor (ac eithrio UCLan) £74 miliwn yn fwy ar gaffael yn ardal Preston (cynnydd mewn gwariant a gedwir yn lleol o 5% i 18.2%) a £200 miliwn yn fwy yn Swydd Gaerhirfryn (o 39% i 79.2% gwariant a gedwir yn lleol) o’i gymharu â 2012/13. Mae pedair mil o weithwyr ychwanegol bellach yn ennill y Cyflog Byw Go Iawn, ac mae diweithdra wedi gostwng: o 6.5% yn 2013 i 3.1% yn 2017. Mae adroddiad ar wahân yn dadlau bod cynhyrchiant ac incwm canolrifol wedi cynyddu ac amddifadedd wedi gostwng.

Ni fydd modd cysylltu’r holl welliant hwn â model Preston. Gwellodd amodau economaidd yn gyffredinol dros y cyfnod hwn, er bod Preston wedi perfformio’n well na’i ranbarth a/neu’r economi ehangach ar rai mesurau. Ni ellir amau bod model Preston wedi chwarae rhan fawr wrth gynyddu gwariant ar gaffael, er bod yr effaith yn llai eglur ar gyfer dangosyddion eraill. P’un a yw rhywun yn dymuno priodoli’r gwelliannau hyn yn llwyr i fodel Preston, mae’r canlyniadau hyn o leiaf yn awgrymu y gall ardaloedd lleol flaenoriaethu gwerth cymdeithasol ac adeiladu cyfoeth cymunedol heb aberthu perfformiad economaidd.

Heb unrhyw dystiolaeth empeiraidd bendant, gallwn ddechrau ystyried yr hyn y mae safbwyntiau damcaniaethol yn ei ddweud wrthym am y strategaethau hyn.  Mae cefnogwyr model Preston yn dadlau bod twf seiliedig ar allforio a buddsoddiad wedi methu â darparu ar gyfer pob cymuned. Ar y llaw arall, mae’r rheiny sy’n beirniadu Model Preston yn dadlau bod y patrwm hwn yn dal ac mai dyma’r llwybr sicraf i ffyniant economaidd. Mae’r dadleuon hyn yn bwysig, oherwydd eu bod yn siarad â chwestiynau ehangach strategaeth economaidd  — cwestiwn sy’n arbennig o berthnasol i Gymru.

I ddechrau, y beirniaid. Mae llawer o feirniadaeth yn canolbwyntio ar y syniad o gaffael lleol, a rhai yn honni ei fod yn fater o sero-swm, heb unrhyw enillion na cholledion cyffredinol, a’i fod yn fath o ddiffyndollaeth economaidd. Mae hyn oherwydd bod dewisiadau lleol ym maes caffael yn golygu bod cwmnïau nad ydynt yn lleol yn colli allan ar gontractau: bydd unrhyw fudd economaidd a gronnir yn Preston yn cael ei golli i ardal arall. At hynny, gallai caffael lleol olygu bod cwmnïau allanol yn dewis peidio â chystadlu am gontractau lleol, gan gynyddu prisiau a gostwng gwerth oherwydd llai o gystadleuaeth. Mae strategaethau diffyndollol yn cyfyngu ar botensial twf cwmnïau lleol, a fydd yn wynebu rhwystrau wrth allforio eu cynnyrch. Y ffordd orau o sicrhau ffyniant, mae’r beirniaid yn ei ddadlau, yw dod ag arian i mewn i economïau lleol trwy fuddsoddiad (yn arbennig buddsoddiad ac arloesedd sgiliau uchel), ac wrth i fusnesau allforio eu cynhyrchion i farchnadoedd eraill. Gall yr effaith dal i fyny y mae hyn yn ei greu fod yn hwb grymus i allu yn y tymor hir. Mae masnach rydd yn arwain at dwf economaidd, gan olygu fod pobl yn well eu byd yn y pen draw.

Mae cefnogwyr model Preston yn dadlau bod y model a arweinir gan fuddsoddiad yn ddull ‘diferu am i lawr’ ‘nad yw’n gweithio ar raddfa’. Yn syml, nid oes digon o fusnesau allforio galluog ar gyfer pob dinas a rhanbarth i’w denu. Gan na all pob dinas fod yn allforiwr net, hyd yn oed pe baent yn denu buddsoddiad, bydd rhai ardaloedd o hyd yn colli allan. Mae ‘diferu’ cyfoeth i lawr yn cael ei gyfyngu ymhellach drwy gyfrwng globaleiddio buddsoddiad a buddsoddwyr, nad ydynt yn tueddu i gylchredeg eu henillion o fewn economïau lleol. Mae peth ymchwil yn awgrymu, er bod masnach anghyfyngedig yn gwella cyfoeth yn y cyfanred, mae hefyd yn creu gwahaniaethau mawr ac mae llawer o ardaloedd ar eu colled.

Yn hytrach na mynd ar ôl twf economaidd yn y cyfanred, mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ceisio meithrin canlyniadau dibynadwy ar draws y meysydd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Y nod yw annog hunan-gynhyrchu cyfoeth at ddibenion cymdeithasol, gan greu sylfaen economaidd gwydn a all sicrhau safon byw dda i drigolion lleol. Yn wir, os yw cyflenwr lleol yn dod â mwy o fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol am yr un gwaith, yna gallai dull model Preston fod yn fwy effeithlon wrth gynhyrchu gwerth.

 

Sut fyddai’n gweithio i Gymru?

Mae’r ddadl am Fodel Preston yn cynnwys cwestiynau ynghylch sut y dylai economïau lleol geisio datblygu, a pha bwysau y dylem ei roi ar fodelau traddodiadol o fuddsoddi a thwf. Mae hyn yn cynnwys cwestiynau gwleidyddol anochel: sut mae economi lwyddiannus yn edrych, a beth yw’r ffordd orau i helpu ardaloedd sy’n ei chael hi’n anodd?

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio datblygu’r economi sylfaenol, y rhan o’r economi sy’n diwallu anghenion dinasyddion lleol ac a geir lle bynnag y mae pobl.  Gallai’r angen i gynyddu gwydnwch economaidd a meithrin gallu lleol, yn enwedig yn y rhannau hynny o Gymru sy’n dal i gael trafferth gyda gwendidau economaidd strwythurol, arwain Llywodraeth Cymru i ystyried fersiwn o fodel Preston fel rhan o’r broses hon. Gallai darpariaethau yn y Mesur Partneriaeth Gymdeithasol sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus hefyd annog cymunedau lleol i fabwysiadu adeiladu cyfoeth cymunedol.

Er bod y dystiolaeth yn awgrymu y gallai adeiladu cyfoeth cymunedol weithio, fodd bynnag, bydd angen cymryd gofal os yw am gael ei weithredu’n llwyddiannus. Fel y mae Helen Cunningham wedi dadlau yn ddiweddar, gall gweld datblygiad economaidd lleol (gan gynnwys adeiladu cyfoeth cymunedol) trwy gaffael lleol yn unig arwain at ddisgwyliadau afrealistig ac anwybyddu mathau eraill o arfer da.

Yn olaf, mae dadl ehangach i’w gwneud ynglŷn â nod model Preston. Dyluniwyd adeiladu cyfoeth cymunedol i gael ei arwain gan y gymuned, ac ymateb i anghenion a dymuniadau cymunedau lleol. Ni fydd un ateb sy’n gweddu i bawb, fel deddfwriaeth neu bolisi cenedlaethol, yn diwallu anghenion pob ardal leol. Mae gwir botensial adeiladu cyfoeth cymunedol yn ei allu posibl i adfer ymdeimlad o asiantaeth economaidd i gymunedau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi colli allan o ganlyniad i globaleiddio a dad-ddiwydiannu. Dim ond gydag arweinyddiaeth weithredol a chyfranogiad pobl a sefydliadau lleol y gellir cyflawni hyn.

 

Credyd delwedd: Democracy Collaborative