Hunanladdiad ymhlith Gwrywod – Epidemig Tawel

Dydd Mawrth 10 Medi yw Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, addysgu am achosion ac arwyddion rhybuddiol o hunanladdiad a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad, ymddygiad hunanladdol a phroblemau iechyd meddwl eraill.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd mae agos at 800,000 o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i hunanladdiad. Mae hyn yn cyfateb i un person bob 40 eiliad ond mae bron yn sicr bod yr amcangyfrif hwn yn rhy isel gan fod hunanladdiad yn aml yn cael ei gamddosbarthu ar gofnodion marwolaeth, oherwydd natur sensitif – ac weithiau anghyfreithlon – y digwyddiad.

Mae tair gwaith cymaint o ddynion yn marw drwy hunanladdiad na menywod mewn gwledydd cyfoethocach a disgrifiwyd hyn gan rai arbenigwyr fel “epidemig tawel” oherwydd diffyg ymwybyddiaeth gyhoeddus a dadl polisi ynghylch maint y broblem a’r hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael â hi.

Fel rhan o’n rhaglen waith ar gyfer 2019/2020, mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i’r Ganolfan edrych ar dueddiadau mewn hunanladdiad ymhlith dynion yng Nghymru. Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg cryno o’r data cyfredol.

Hunanladdiad yn y DU ac yng Nghymru

Yn ôl y bwletin ystadegol diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn 2018 dynion a bechgyn oedd yn gyfrifol am dri chwarter o’r 6507 o hunanladdiadau a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn batrwm cyson ers canol y 1990au, ac mae’n cyfateb i 17.24 marwolaeth i bob 100,000 o wrywod.

Mae’r ONS hefyd yn adrodd mai dynion 45-49 oed sydd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf gyda 27.1 o farwolaethau fesul 100,000 yn 2018. Y genhedlaeth hon oedd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf hefyd o 1991-2011, pan oeddent yn 30-44 oed.

Mae bwletin ystadegol yr ONS ar hunanladdiad yng Nghymru ers 1981 yn dangos bod cyfartaledd o 300 o farwolaethau y flwyddyn yn ystod y cyfnod, ac roedd 76% o’r rhain yn wrywod. Yn wahanol i’r DU gyfan, mae’r gyfradd hunanladdiad ymhlith gwrywod wedi bod ar gynyddu yng Nghymru.

Mae gan ddynion sy’n gweithio mewn galwedigaethau sgiliau isel elfennol, gofalgar, hamdden a gwasanaethau eraill ac mewn crefftau medrus yng Nghymru risg sylweddol uwch o lawer o hunanladdiad na rhai eraill. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyflog isel, diogelwch swydd a pherygl o gael anaf, a hefyd gwybodaeth am ddulliau marwol iawn o gyflawni hunanladdiad a mynediad atynt. Mae’r ystadegau hefyd yn cyfeirio at gysylltiad rhwng hunanladdiad ac amddifadedd.

Pam mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad nag yw menywod

Mae arbenigwyr yn awgrymu bod y gyfradd hunanladdiad uwch ymhlith dynion yn gysylltiedig ag ystod o ffactorau.  Yn arbennig, mae ganddynt ddulliau mwy marwol o gyflawni hunanladdiad na menywod, gallant fod yn fwy amharod i ofyn am gymorth, ac yn aml mae perthynas sy’n chwalu’n effeithio’n fwy difrifol arnynt nag ar fenywod. Fodd bynnag, yn aml ni ellir pennu un rheswm penodol pam mae rhywun yn cymryd ei fywyd ei hun.

Nododd adroddiad a gomisiynwyd gan y Samariaid yn A 2012 fod newid cymdeithasol yn un o’r prif achosion o hunanladdiad ymhlith gwrywod 45-59 oed, gan gyfeirio atynt fel y ‘genhedlaeth glustogi’, ‘sydd wedi’u dal rhwng gwrywdod traddodiadol tawel, cryf, llym eu tadau a chenhedlaeth fwy blaengar, agored ac unigolyddol eu meibion’.

Beth yw rôl polisi yng Nghymru?

Yn 2015 lansiodd Llywodraeth Cymru strategaeth pum mlynedd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, o’r enw Siarad â fi 2, sy’n adlewyrchu ymrwymiad aelodau Sefydliad Iechyd y Byd i leihau’r gyfradd hunanladdiad 10% erbyn 2020. Mae hyn yn ceisio mynd i’r afael â stigma hunanladdiad, cyflwyno ymatebion ac ymyriadau priodol, a chefnogi’r rhai sydd mewn profedigaeth neu y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt.

Wrth lansio’r strategaeth, dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd:

“Mae hunanladdiad fel arfer yn digwydd mewn ymateb i gyfres gymhleth o ffactorau sy’n bersonol ac yn gysylltiedig â dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach…. Er mwyn atal hunanladdiad a hunan-niwed mae angen cydweithio effeithiol ar draws adrannau’r Llywodraeth ganolog, rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, gan gynnwys y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau ac, wrth gwrs, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ystod o leoliadau gan gynnwys ysgolion, gweithleoedd, ysbytai a chymunedau.”

Mae’n debygol y bydd y strategaeth yn cael ei hadnewyddu y flwyddyn nesaf ac mae ffyrdd o leihau’r gyfradd hunanladdiad yn parhau yn flaenoriaeth uchel i lunwyr polisi yng Nghymru.

 

Os yw’r materion a godwyd yn y blog hwn yn effeithio arnoch, ffoniwch 116 123 i siarad â’r Samariaid.