Unigrwydd yn ystod y Cyfyngiadau ar Symud

Cyn pandemig y Coronafeirws (COVID-19), roedd 16% o boblogaeth Cymru yn dweud eu bod yn unig, ac mae’n hysbys bod unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn cyflwyno heriau sylweddol i iechyd a llesiant y cyhoedd.  Mae sawl Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus wedi nodi bod eu lleihau yn flaenoriaeth ar gyfer eu hardaloedd, a rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Unigrwydd ei hun ym mis Chwefror, ychydig cyn y cyfyngiadau presennol ar symud.

Mae’r mesurau cadw pellter yn gymdeithasol er mwyn lleihau’r trosglwyddo ar y Coronafeirws wedi golygu bod y gwaith o fynd i’r afael â’r broblem yn anoddach ac yn fwy o fater brys.  Maent ar yr un pryd yn cynyddu risg unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ac yn gwneud rhai o’n ffyrdd mwyaf dibynadwy o’u datrys yn amhosibl.  I wneud materion yn waeth, mae’r dystiolaethyn awgrymu mai’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o ran unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau ar symud, yn enwedig pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain, yw’r rhai lleiaf galluog i gael mynediad i’r ffyrdd o ymdopi â hynny sy’n dod yn sgîl technoleg a systemau o bell.  Nhw hefyd sydd fwy na thebyg yn wynebu’r cyfnod hwyaf o ynysu, o bosib i mewn i’r flwyddyn nesaf.

Mae unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn gysyniadau gwahanol.  Mae unigrwydd yn cyfeirio at deimladau person ynghylch ansawdd eu perthnasoedd.  Mae ynysu cymdeithasol yn mesur yn wrthrychol faint o berthnasoedd sydd gan rywun.  Bu ein cyfres o flogiau y llynedd yn trafod y dystiolaeth o unigrwydd yng Nghymru a ffyrdd posibl o fynd i’r afael â hyn ar gyfer pobl hŷn a iau,  rhai sy’n ddifreintiedig yn faterol ac ar gyfer cymunedau trefol a gwledig.

Mae’n eglur o’r gwaith hwnnw bod y rhan fwyaf o ymyriadau presennol yn dibynnu ar gyswllt wyneb yn wyneb ac yn annog hynny.  Er bod diffyg tystiolaeth gadarn ynghylch effeithiolrwydd y mentrau hyn, bernir mai dulliau gweithredu person-ganolog ac wedi’u teilwra yw’r rhai mwyaf effeithiol.  Mae’r rhain yn cynnwys treulio amser gydag anifeiliaid, dysgu pobl sut i ddefnyddio technoleg, garddio, gweithgaredd corfforol, therapi hel atgofion, cyfeillio a chael mynediad i wasanaethau.

O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddulliau cyfredol i gefnogi gwell cysylltiadau cymunedol yn canolbwyntio ar ddarparu mecanweithiau i gysylltu pobl â’r mentrau, y grwpiau a’r gwasanaethau hyn.  Ymhlith yr enghreifftiau yng Nghymru mae rolau gweithiwr cyswllt sy’n galluogi pobl i gael mynediad i ddarpariaeth gymunedol, er enghraifft ACE – Gweithredu yng Nghaerau ac Elai, Cydlynwyr Ardal Leol Abertawe, adull Gwnaed yng Ngogledd Cymru o ragnodi cymdeithasol.

Mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu nad yw’r dulliau gweithredu hyn yn ddichonadwy bellach, felly mae angen i ni gael hyd i ymyriadau effeithiol sydd ddim yn dibynnu ar gysylltiadau cymdeithasol uniongyrchol.  Atebion sy’n cael eu galluogi’n ddigidol sy’n darparu’r ateb amlycaf.  Gall platfformau cyfryngau cymdeithasol yn arbennig roi pobl mewn cysylltiad â’i gilydd, a galluogi gwasanaethau cyhoeddus i nodi a diwallu anghenion cymunedau ac unigolion.  Rhai enghreifftiau yw apiau a mentrau megis Ymgyrch Breathe Life, Bookey, a Speaking Exchange, sy’n cefnogi pobl i ddod yn rhan o grŵp sydd â diddordeb a rennir ac yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd ac ynysu cymdeithasol.

Fodd bynnag, nid dyma’r ateb cyfan. Rydym ni’n gwybod bod cyfleu emosiynau ac awgrymiadau cymdeithasol yn anodd ar-lein, felly dyw e ddim yn disodli cyswllt uniongyrchol.  Mae atebion a alluogir yn ddigidol hefyd yn eithrio un o bob pump o’r boblogaeth yng Nghymru sydd heb sgiliau digidol sylfaenol a’r 13% o aelwydydd sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd.

Ein nod yw helpu i gychwyn deialog ynghylch gwerth ymyriadau nad ydynt yn rhai wyneb yn wyneb i leihau unigrwydd er mwyn gwella dealltwriaeth o beth sy’n gweithio i wahanol grwpiau.  Gallai’r mesurau presennol ar gyfer cadw pellter cymdeithasol fod yn eu lle am beth amser, yn arbennig yn achos grwpiau bregus a rhai sy’n cael eu ‘gwarchod’, ac mae’n debygol y bydd goblygiadau’r Coronafeirws ar gyfer capasiti gwasanaethau cyhoeddus, darpariaeth iechyd cyhoeddus a’n canfyddiadau personol ynghylch pa mor agored ydym ni i risgiau iechyd yn parhau hefyd.  Ond hyd yn oed mewn cyfnodau ‘normal’ mae ystod o grwpiau yn ein cymunedau sy’n teimlo bellter i ffwrdd yn gymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr, mamau newydd, rhai â chyfyngiadau ar eu symudedd corfforol, a rhai sydd â salwch meddwl.  A gallai fod pethau i ni eu dysgu o sut mae technoleg wedi cael ei defnyddio i gefnogi’r grwpiau hyn, y mae modd eu cymhwyso’n fwy cyffredinol i’r amgylchiadau presennol.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn trafod y dystiolaeth hon mewn brîff polisi sydd i ddod ac yn nodi materion allweddol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy’n chwilio am atebion sy’n cael eu galluogi gan dechnoleg i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau ar symud.