Sut mae mynd i’r afael ag unigrwydd? Tystiolaeth ar bobl iau a hŷn

Dyma’r ail flog mewn cyfres o dri ar unigrwydd ac ynysiad yng Nghymru. 

Yma, rydym yn trafod ffyrdd posibl o fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl iau a phobl hŷn, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael.

Gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio ei Strategaeth Unigrwydd erbyn diwedd Mawrth 2019, mae’n bwysig ystyried beth sydd gan y dystiolaeth i’w ddweud am yr hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag unigrwydd. Bu rhan un yn trafod beth rydym ni’n ei wybod am nodweddion y rheini sy’n fwyaf tebygol o brofi unigrwydd yng Nghymru; a’r hyn y mae’r data yn ei amlygu yw mai pobl ifanc a’r rhai sy’n dioddef amddifadedd materol sy’n fwyaf tebygol o fod yn unig. Dangosodd y data hefyd gysylltiad posibl rhwng ble mae rhywun yn byw a’r tebygolrwydd y byddant yn unig.

Ymchwil ar Ymyriadau Unigrwydd

Y gwaith ymchwil mwyaf cynhwysfawr a systematig a wnaed ar ymyriadau unigrwydd yw’r adroddiad tystiolaeth Tackling Loneliness a lansiwyd yn ddiweddar gan ganolfan What Works Centre for Wellbeing. Mae’r adroddiad yn edrych ar 40 o wahanol astudiaethau unigol, sy’n cwmpasu 5040 o bobl.

Yn gyffredinol, mae’r adroddiad yn nodi diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer lliniaru unigrwydd. Nid yw hynny’n golygu nad yw ffyrdd o fynd i’r afael ag unigrwydd yn gweithio, ond yn hytrach bod mwyafrif llethol y 40 astudiaeth ar raddfa fach ac yn rhai tymor byr, sy’n golygu y byddai effeithiau ar unigrwydd yn annhebygol iawn o fod i’w gweld.   Mae hyn yn golygu bod yr adroddiad yn gochel rhag gwneud argymhellion uniongyrchol i lunwyr polisi, er ei fod yn cyfeirio at ymyriadau sy’n canolbwyntio ar y person a rhai wedi’u teilwra fel ffyrdd addawol o fynd i’r afael ag unigrwydd.  Rhoddir arweiniad cryf ar gyfer cyfeiriad ymchwil yn y dyfodol hefyd, fel y gall polisi’r dyfodol gael ei lywio gan dystiolaeth ynghylch ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd.

Gyda hyn mewn golwg, rydym yn trafod yma beth mae’r dystiolaeth gyfyngedig yn ei ddweud am fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn a phobl iau.

Mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn

Roedd y 40 astudiaeth a adolygwyd yn yr adroddiad gan ganolfan What Works Centre for Wellbeing yn canolbwyntio ar ymyriadau unigrwydd ar gyfer pobl hŷn yn unig, gan nad oedd dim o’r ymchwil ar grwpiau oed eraill yn bodloni’r meini prawf i’w chynnwys yn yr adolygiad. Yn yr astudiaethau hyn, roedd yr ymyriadau a gynlluniwyd i leddfu unigrwydd yn cynnwys treulio amser gydag anifeiliaid, addysgu sut i ddefnyddio technoleg, garddio, gweithgarwch corfforol, therapi hel atgofion, a chyfeillio.

Mae’r adroddiad yn gwahaniaethu rhwng ffyrdd o fynd i’r afael ag unigrwydd yn ôl sefyllfa bywyd y person hŷn. Y rheswm am hynny yw bod profiad o unigrwydd mewn cartref gofal yn wahanol iawn i’r profiad o unigrwydd a geir wrth fyw ar eich pen eich hun, sy’n golygu y bydd ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael ag unigrwydd yn wahanol i’r ddau grŵp. Er enghraifft, mae’n awgrymu bod rhaglenni cyfeillio yn ffyrdd addawol o fynd i’r afael ag unigrwydd y tu allan i gartrefi gofal a llety preswyl, tra gallai therapi anifeiliaid a cherddoriaeth fod yn well i leihau unigrwydd y rhai sydd mewn llety preswyl.

Mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl iau

Er gwaethaf adroddiadau cyson bod cyfraddau unigrwydd yn uwch ymhlith pobl iau na phobl hŷn, prin yw’r dystiolaeth ynghylch beth sy’n gweithio o ran lliniaru unigrwydd ymysg pobl iau. Y rheswm am hynny yw bod canfyddiad hanesyddol o unigrwydd fel un o broblemau bywyd pobl hŷn – er y bydd mwy o ymchwil yn digwydd ar ffyrdd o fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc wrth i’r dystiolaeth barhau i ddangos mai pobl iau sy’n fwy tebygol o fod yn unig.

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn cyfeirio at rai ffyrdd addawol o fynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc.  Un dull gweithredu penodol sy’n ymddangos yn addawol yw annog rhyngweithio ar draws y cenedlaethau.  Mae Prosiectau Rhannu Cartref (Homeshare) yn dwyn ynghyd bobl hŷn sydd angen cymorth i aros yn eu cartrefi, a phobl ifanc sy’n darparu cwmnïaeth a lefel isel o gymorth ymarferol, yn gyfnewid am le fforddiadwy i fyw. Dangosodd un darn o waith ymchwil fod y person hŷn a’r person iau yn y prosiectau hyn yn teimlo’n llai unig, oherwydd effeithiau mwy o gwmnïaeth.

Yn dilyn ymlaen o hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud am leihau unigrwydd trwy greu cyswllt rhwng y cenedlaethau. Cyhoeddir y canfyddiadau yn y gwanwyn a gellir eu defnyddio i lywio eu Strategaeth Unigrwydd.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae diffyg tystiolaeth ynghylch ffyrdd effeithiol o leihau unigrwydd ar gyfer pobl hŷn a phobl  iau yn awgrymu y byddai unrhyw ymyriadau a roddir ar waith yn elwa o gael eu gwerthuso, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith a ddymunir. Ochr yn ochr â hyn, mae angen mwy o ymchwil i gryfhau’r sylfaen o dystiolaeth; yn arbennig ynghylch yr ymyriadau hynny sy’n targedu pobl o dan 55 oed, o wahanol ethnigrwydd, a gwahanol grwpiau sosio-economaidd.