5 peth y dysgom ni am gaffael

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ystyried yr achos dros agwedd fwy strategol at gaffael cyhoeddus ers yn agos i ddwy flynedd. Ym mis Gorffennaf 2018 cynhaliom ni ddigwyddiad oedd yn ystyried y gwersi yn sgil cwymp Carillion. Yn gynharach eleni fe gyhoeddom ni adroddiadau ar gontractio, stiwardiaeth a gwerth cyhoeddus ac ar gaffael cyhoeddus cynaliadwy. Ym mis Chwefror 2019 cynhaliom ni ddigwyddiad a ddaeth â gweithwyr caffael proffesiynol, academyddion ac eraill at ei gilydd i drafod y cyfleoedd a’r rhwystrau o ran agweddau at gaffael sy’n ceisio cynyddu gwerth cyhoeddus.

Yn ddiweddar cynhaliom ni ddigwyddiad i ddod â gweithwyr caffael proffesiynol a rhanddeiliaid sydd â diddordeb at ei gilydd i drafod beth sydd wedi newid ers i gaffael ddod yn fwy blaenllaw yn y drafodaeth ar bolisi cyhoeddus, a beth sydd angen digwydd o hyd. Ein siaradwyr oedd Dr Jane Lynch, Liz Lucas, Steve Robinson a’r Athro Kevin Morgan. Mae’r blog hwn yn crynhoi pum peth a ddysgom ni.

  1. Dyw Cymru ddim yn gwneud yn rhy ddrwg

Drwy fynd ati (yn ddigon rhesymol) i nodi problemau gyda chaffael a cheisio canolbwyntio ar welliannau, mae’n hawdd swnio’n wangalon. Ond mae’r drafodaeth a’r arfer yng Nghymru’n fwy aeddfed nag ydyw mewn rhai cenhedloedd. Mewn datganiadau polisi a deddfwriaeth arall, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod yr egwyddorion gor-redol ar gyfer caffael cyhoeddus, sy’n cynnwys cyflenwi budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i’r gymuned.

  1. Mae angen parchu caffael fel proffesiwn

Am nifer o wahanol resymau, ceir diffyg capasiti yn y proffesiwn caffael. Yn rhannol, y rheswm am hyn yw bod llymder mewn llywodraeth leol wedi dileu capasiti caffael. Ond mae hefyd yn ymwneud â sut mae’r proffesiwn yn cael ei weld. Dadleuodd y panelwyr fod caffael bob amser ar waelod y gadwyn fwyd: yn dipyn o ‘ymrwymiad meddal’. Ceir problem ddiwylliannol ynghylch y ffordd y caiff swyddi caffael eu hystyried a’r gwerth a roddir arnynt mewn llywodraeth leol. Ydy penaethiaid caffael yn adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwyr? Neu ydyn nhw’n adrodd i lefelau is o awdurdod, lle gallai caffael cael ei weld yn fwy fel ymarfer arbed costau yn hytrach na chreu gwerth cyhoeddus?

  1. Mae diffyg adnoddau a chapasiti yng Nghymru i gyflenwi’n effeithiol, ac mae hyn yn effeithio ar gaffael

Ydy datganoli wedi rhoi’r pwerau, y liferi a’r capasiti i Gymru gyflawni dyheadau polisi? Y teimlad cyffredinol yn yr ystafell oedd – yng nghyd-destun caffael – nad oedd wedi gwneud hynny. Mae Cymru wedi pasio deddfwriaeth dda, ond nid yw’r adnodd a’r cyfeiriad strategol yno. Mae angen gweld caffael yng nghyd-destun sut y gall gyflenwi polisi effeithiol o fewn y llywodraeth. Mae hyn yn arbennig o wir os yw’n ddatrysiad i heriau polisi cyhoeddus mawr (fel hybu’r economi sylfaenol a chyflenwi rhai o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol). Nid yw’n ymwneud â deddfu (yn unig), ond â dilyn hynny ‘ar lawr gwlad’ i wneud yn siŵr fod y blaenoriaethau hyn yn cael eu gwreiddio.

  1. Mae’n wirioneddol anodd gwreiddio arfer da

Cafwyd trafodaeth gyfyngedig ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond un her i gorff cenedlaethol yw’r dybiaeth bod awdurdodau lleol yn meddwl ac yn gweithredu yn yr un ffordd; yn hytrach ceir 22 sefydliad gwahanol mewn ardaloedd gwahanol gyda phwysau a blaenoriaethau gwahanol.  Fodd bynnag, mae ailgynllunio’r olwyn caffael 22 o weithiau’n feichus ac yn ddiangen. Mae lle i wneud llawer yn well gyda chydweithio rhwng awdurdodau lleol, a rhannu a datblygu arfer da ar draws y sector, yn ogystal â gyda chyrff sector cyhoeddus eraill.

Bydd rhanddeiliaid cenedlaethol yn bwysig i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae rôl gan Lywodraeth Cymru. Mae rôl gan gyrff cyhoeddus fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Gallai fod angen i wasanaethau cyhoeddus greu a gwreiddio ecosystem caffael sy’n gallu rhannu arfer da a chydweithio.

  1. Sut gallwn ni annog arloesedd?

Cafwyd cytundeb bod arloesi o ran caffael yn cael ei lesteirio, a bod bwlch o hyd rhwng deddfwriaeth a chyflawni. Beth sy’n ein rhwystro ni a sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau?

Thema gyson drwy’r digwyddiad oedd yr angen i annog capasiti caffael. Gallai hynny olygu egluro rôl y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn y tymor byr, ac yn y tymor hir gallai olygu trawsnewid y diwylliant i alluogi cydweithio, a chynyddu cydnabyddiaeth o’r sector er mwyn iddo fod yn adnodd â gwerth amlwg ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gellir darllen ein holl waith ar gaffael yma.