Gwasanaethau cymdeithasol a chyfraddau gofal plant yng Nghymru: Arolwg o’r sector

Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru.  Mae’r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au.

Yn ogystal, bu gan Gymru fwy o blant yn gyson yn derbyn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth na gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r duedd hon yn destun pryder; yn enwedig yr effaith ar ganlyniadau plant sy’n cael eu cymryd i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Ar ben hynny, disgwylir bod pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r sefyllfa.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi nodi bod lleihau cyfraddau gofal yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth.

Er mwyn deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar gyfraddau gofal yn well, comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal arolwg gyda’r gweithlu gofal cymdeithasol i blant.

Mae’r arolwg yn ceisio deall yr hyn a allai fod yn ysgogi cyfraddau gofal ym marn y rhai sy’n gweithio yn y sector a dadansoddi rhai o’r gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol sydd â chyfraddau cynyddol neu ostyngol o blant sydd mewn gofal.

Roedd gennym ddiddordeb ym marn arweinwyr yn y sector hefyd.

Er mwyn deall y safbwyntiau hyn a’u goblygiadau ar gyfer gwahaniaethau mewn cyfraddau gofal, nod yr arolwg yw ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Pa ffactorau sy’n ysgogi’r cynnydd mewn cyfraddau gofal ym marn y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i blant?
  • Beth yw’r pethau tebyg a gwahanol o ran barn, gwerthoedd ac ymatebion ymarfer arweinwyr a gweithwyr?
  • Beth yw’r pethau sy’n debyg ac yn wahanol o ran barn, gwerthoedd neu arferion gweithwyr ac arweinwyr mewn awdurdodau lleol sydd â chyfraddau gofal cynyddol o gymharu â’r rhai sydd â chyfraddau gofal gostyngol?

Mae gwahaniaethau mawr rhwng ymatebwyr o awdurdodau lleol sydd â chyfraddau cynyddol o gymharu â chyfraddau gostyngol yn ymwneud ag arferion gofal cymdeithasol i blant ei hun; mae eu barn am bwysau allanol yn debyg.

Mewn awdurdodau sydd â chyfraddau gostyngol, mae ymatebwyr yn fwy tebygol o feddwl bod y plant cywir mewn gofal, bod yn gadarnhaol o ran cyfradd y plant sydd mewn gofal yn eu hawdurdod lleol, bod yn hyderus ynghylch ymarfer yn eu hawdurdod lleol, bod â gwerthoedd cadarnhaol mewn perthynas â theuluoedd biolegol, bod yn well ganddynt gadw plant gartref, a’u bod yn adrodd gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am effaith pandemig y Coronafeirws ar ymarfer hefyd.

Gan nad oedd y rhain yn ymwneud yn uniongyrchol â chyfraddau gofal, cyflwynir y drafodaeth hon mewn adroddiad byr ar wahân.

Cwblhaodd cyfanswm o 792 o ymatebwyr yr arolwg rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.

Mae’r atodiadau, a gyhoeddwyd mewn dogfen ategol ar wahân (Atodiadau: Gwasanaethau cymdeithasol a chyfraddau gofal plant yng Nghymru – Arolwg o’r sector, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru), yn cynnwys dolen i’r arolwg, y sampl, y dulliau a’r ffordd y dadansoddwyd y data, a thablau ymateb. Dylid darllen y rhain ochr yn ochr â’r adroddiad hwn a chyfeirir atynt drwyddi draw.