Yr Hyn sy’n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau Economaidd

Mae’r diffyg cyfleoedd economaidd, ansicrwydd diogelwch swydd a chyflogau isel yn ffactorau pwysig sy’n achosi tlodi gwledig mewn sawl rhan o Gymru.

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio pa mor effeithiol yw dulliau o atgyfnerthu economïau gwledig gan ddefnyddio gwerthusiadau o ymyriadau mewn amrywiaeth o wledydd OECD. Mae’n nodi pedwar prif ddull gweithredu: rhaglenni datblygu strategol mawr ledled ardal; benthyciadau; buddsoddi angel; a Chyfrifon Datblygu Unigol.